Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWELEDIGAETHAU

Y

BARDD CWSG.

—————————————

I—GWELEDIGAETH Y BYD

Ar ryw brydnawngwaith teg o haf hir felyn tesog, cymmerais hynt i ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi ysbïenddrych, i helpu'm'[1] golwg egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr. Trwy yr awyr deneu eglur, a'r tes ysblenydd tawel, canfyddwn ym mhell bell, tros Fôr y Werddon, lawer golygiad 'hyfryd. O'r diwedd, wedi porthi fy llygaid ar bob rhyw hyfrydwch o'm hamgylch, onid[2] oedd yr haul ar gyrhaedd ei gaerau yn y Gorllewin, gorweddais ar y gwelltglas, tan syn fyfyrio deced a hawddgared (wrth fy ngwlad fy hun) oedd y gwledydd pell y gwelswn gip o olwg ar eu gwastadedd tirion; a gwyched oedd gael arnynt lawn olwg; a dedwydded y rhai a welsent gwrs[3] y byd, wrthyf fi a’m bath. Felly, o hir drafaelio[4] â'm llygad, ac wedi â'mmeddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth fy Meistr Cwsg yn lledradaidd i'm rhwymo; ac â'i agoriadau plwm fe gloes ffenestri fy llygaid, a'm holl synwyrau ereill, yn dyn ddiogel. Eto, gwaith ofer oedd iddo geisio cloi yr Enaid, a fedr fyw a thrafaelio heb y corff: canys diangodd fy

  1. 'I helpu'n golwg,' argraffiad 1703.
  2. Hyd nes, hyd onid.
  3. Llad, cursus; Seis. course: hynt, helynt, ystod, gyrfa, chwyl. Arferir y gair mor fore o leiaf ag amser Dafydd ab Gwilym
  4. Seis, travel: teithio, ymdeithio, trafaelu