Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ysbryd ar esgyll ffansi[1] allan o'r corpws[2] cloiedig: a chyntaf peth a welwn i, yn fy ymyl [oedd] dwmpath chwareu, a'r fath Gad Gamlan[3] mewn peisiau gleision a chapiau cochion, yn dawnsio yn hoew brysur. Sefais ennyd ar fy nghyfyng gynghor awn i atynt ai peidio; o blegid ofnais, yn fy ffwdan, mai haid oeddynt o Sipsiwn[4] newynllydd; ac na wnaent as[5] lai na'm lladd i i'w swper, a'm llyncu yn ddihalen. Ond o hir graffu, mi a'u gwelwn hwy yn well a thecach eu gwedd na’r giwed felynddu gelwyddog hòno. Felly anturiais nesäu atynt, yn araf deg, fel iâr yn sengu ar farwor, i gael gwybod beth oeddynt; ac o'r diwedd gofynais eu cenad fel hyn o hyd fy nhin: Atolwg, lân gynnulleidfa, yr wyf yn deall mai rhai o bell ydych, a gymmerech chwi Fardd i'ch plith, sy'n chwennych trafaelio?' Ar y gair, dystawodd y trwst, a phawb â'i lygad arnaf, a than wichian, Bardd,' ebr un; Trafaelio,' eb un arall; I'n plith ni,' ebr y trydydd. Erbyn hyn mi adwaenwn rai oedd yn edrych arnaf ffyrnicaf o'r cwbl. Yna dechreuasant sibrwd o glust i glust ryw ddirgel swynion, ac edrych arnaf; a chyda hyny torodd yr hwndrwd,[6] a phawb a'i afael ynof, codasant fi ar eu hysgwyddau, fel codi Marchog Sir; ac yna ymaith â ni, fel y gwynt, tros dai a thiroedd, dinasoedd a theyrnasoedd, a moroedd a mynyddoedd, heb allu dal sylw ar ddim, gan gyflymed yr oeddynt yn hedeg. A pheth sy waeth, dechreuais ammheu fy nghymdeithion wrth

  1. Fancy: dychymmyg, asbri, crebwyll. Na fydd megys llew yn dy dŷ, yn curo dy weision wrth dy fansi. Eccl. iv. 30
  2. Llad. corpus: corff, corffyn. Gwel D. ab Gwilym, cvi. 43
  3. Cad Gamlan=tyrfa fawr wedi myned blith draphlith â'u gilydd: neu yn gwau drwy eu gilydd, heb drefn na dosbarth. Ymadrodd diarebol ydyw, wedi ei fenthyciaw oddi wrth y gad a ymladdwyd rhwng Arthur a Medrod, ar lan yr afon Camlan, ar gyffiniau Dyfnaint, o gylch y flwyddyn 542. Cyfeiria'r beirdd yn aml at y frwydr drychinebus hon.
    Llawer llef druan, fal ban fu’r Gamlan.—Gr. ab yr Ynad Coch.
    Lliw tân y Gad Gamlan gynt.—D. ab Gwilym.
  4. Gipsies: llygriad, fel y bernir, o Egyptians, am y tybid gynt eu dyfod o'r Aipht, yr hon oedd enwog yn y cynoesoedd am ei dewiniaid a'i hudolion. Gwel Ecs, vii, viii. Ond credir yn awr yn gyffredin mai Hindwstan yw bro gynhenid y gwibiaidi hyn. Brython, i. 51
  5. Mymryn, gronyn, y dim lleiaf
  6. Hundred: cantref, cwmmwd; cyfundeb: yma, dwndwr, cynhwrf, ffwndwr. Peidiodd y dadwrdd.