Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwnaethent â thi, oni bai fy nyfod i mewn pryd i'th achub o gigweiniau[1] plant annwfn.[2] Gan fod cymmaint dy awydd i weled cwrs y Byd bach, ces orchymmyn i roi i ti olwg arno, fel y gwelit dy wallgof yn anfodloni i'th ystâd a'th wlad dy hunan. "Tyred gyda mi, neu dro," eb ef; a chyda'r gair, a hi yn dechreu tori'r wawr, fe a'm cipiodd i ym mhell bell tu uchaf i'r castell; ac ar ysgafell[3] o gwmwl gwyn gorphwysasom yn yr entrych, i edrych ar yr haul yn codi, ac ar fy nghydymaith nefol, oedd lawer dysgleiriach na'r haul, ond bod ei lewyrch ef ar i fyny gan y llen gel[4] oedd rhyngddo ac i waered. Pan gryfhaodd yr haul, rhwng y ddau ddysglaer, gwelwn y ddaiar fawr gwmpasog megys pellen fechan gron, ym mhell oddi tanom. Edrych yr awran,[5] eb yr Angel, ac a roes i mi ddrych ysbïo amgen nag oedd genyf fi ar y mynydd. Pan ysbïais trwy hwn, gwelwn bethau mewn modd arall, eglurach nag erioed o'r blaen.

Gwelwn un Ddinas anferthol o faintioli; a miloedd o ddinasoedd a theyrnasoedd ynddi; a'r eigion mawr, fel llyn tro, o'i chwmpas; a moroedd ereill, fel afonydd, yn ei gwahanu hi yn rhanau. O hir graffu, gwelwn hi yn dair ystrŷd fawr tros ben; a phorth mawr dysgleirwych ym mhen isaf pob ystrŷd; a. thŵr teg ar bob porth; ac ar bob tŵr yr oedd Merch landeg aruthr[6] yn sefyll yng ngolwg yr holl ystrŷd; a'r tri thŵr o'r tu cefn i'r caerau yn cyrhaedd at odre'r castell mawr hwnw. Ar ohyd i'r tair anferthol hyn, gwelwn ystrŷd groes arall, a hòno nid oedd ond bechan a gwael wrth y lleill, ond ei bod hi yn lanwaith, ac ar godiad uwch law yr ystrydoedd ereill, yn myned rhagddi uwch uwch tua'r Dwyrain; a'r tair ereill ar i waered tua'r Gogledd at y pyrth mawr. Ni fedrais i ymattal ddim hwy heb ofyn i'm cyfaill a gawn gena i siarad. 'Beth ynte?' eb yr Angel; ond siarad di, gwrando yn ystyriol, na orffo dywedyd yr un peth i ti ond unwaith.' Gwnaf, fy Arglwydd; ac ertolwg,' ebr fi, 'pa le yw'r castell draw yn y Gogledd?' 'Y castell fry yn yr awyr,' ebr ef, 'a piau Belial, tywysog llywodraeth yr awyr, a llywodraethwr yr holl ddinas

  1. Crafangau, bachau, ysbagau
  2. Neu, annwn=y pwll diwaelod, uffern eithaf, uffern
  3. Ael, ymyl, cilffed
  4. Gorchudd, llen gudd, mwgwd
  5. Yrwan, yma, ac yn y rhan fwyaf o fanau ereill, yw llythyraeth argraffiad 1703.
  6. Rhyfeddol, i'w ryfeddu, nodedig; anferthol; dros ben