Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fawr obry; fe'i gelwir Castell Hudol; canys hudol mawr yw Belial; a thrwy hudoliaeth y mae e'n cadw tan ei faner y cwbl oll a weli; oddi eithr yr ystrŷd fechan groes acw. Tywysog mawr yw hwn, â miloedd o dywysogion dano. Beth oedd Caesar,[1] neu Alecsander Fawr, wrth hwn? Beth yw'r Twrc, a'r hen Lewis[2] o Ffrainc, ond gweision i hwn? Mawr, a mawr tros ben; yw gallu, a chyfrwysdra, a diwydrwydd y Tywysog Belial, a'i luoedd hefyd sy ganddo heb rifedi yn y wlad isaf.' I ba beth y mae'r Merched yna yn sefyll,' ebr fi, 'a phwy ydynt?' 'Yn araf,' eb yr Angel, un cwestiwn[3] ar unwaith; i'w caru a'u haddoli y maent yna.' 'Nid rhyfedd, yn wir,' ebr fi; 'a hawddgared ydynt, petwn[4] perchen traed a dwylo fel y bûm, minnau awn i garu neu addoli y rhai hyn.[5] Taw, taw,' ebr yntau; os hyny a wnait a'th aelodau, da dy fod hebddynt: gwybydd dithau, ysbryd anghall, nad yw'r tair tywysoges hyn ond tair hudoles ddinystriol, merched y Tywysog Belial; a'u holl degwch a'u mwynder, sy'n serenu yr ystrydoedd, nid yw ond wynebiad ar wrthuni a chreulonder; mae'r tair oddi mewn, fel eu tad, yn llawn o wenwyn marwol.' Och fi! ai posibl,' ebr' fi, yn athrist iawn,'ar glwyfo o'u cariad?' 'Rhy wir, ysywaeth,' ebr ef. Gwych genyt y pelydru y mae'r tair ar eu haddolwyr; wel,' ebr ef, mae yn y pelydr acw lawer swyn ryfeddol; mae e'n eu dallu rhag gweled bach; mae e'n eu synu rhag ymwrando â'u perygl; ac yn eu llosgi â thrachwant diwala am ychwaneg o hono, ac yntau yn wenwyn marwol, yn magu ynddynt glefydau anesgorol,[6] na ddichon un meddyg, ïe, nac angen, byth bythoedd eu hiachäu; na dim, oni cheir physigwriaeth[7] nefol, a elwir edifeirwch, i gyfog[8] y drwg mewn pryd, cyn y greddfo yn rhy bell, wrth dremio gormod arnynt. 'Pan', ebr fi, 'na fyn Belial yr addoliant iddo ei hunan?' Ond yr un peth yw?' eb ef: 'mae'r hen Gadno yn cael ei addoli yn ei ferched; o blegid tra bo dyn yng nglŷn

  1. Iwl Caisar, ymharawdwr cyntaf Rhufain
  2. 'Lewis o Ffrainc,' y pedwerydd ar ddeg o'r enw, yr hwn oedd y pryd hyn yn fyw, ac yn dwyn mawr rwysg. Bu farw yn 1715, yn 77 mlwydd oed, wedi teyrnasu 72 o flynyddoedd
  3. Gofyniad, holiad
  4. 'Petwn'=pe bawn, pe byddwn. Gwel Act. xxviii. 19; Col. ii. 20.
  5. 'Rhain,' yn y lle hwn, ac yn gyffredin drwy'r gwaith, a geir yn argraffiad 1703
  6. Neu, anesgor=anfeddyginiaethol, anwelladwy, difeddyg, anaele
  7. Physic: meddyginiaeth
  8. Cyfogi, chwydu, gloesi