Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth y rhai hyn, neu wrth un o'r tair, mae e'n sicr tan nod Belial, ac yn gwisgo ei lifrai[1] ef.'

'Beth,' ebr fi, 'y gelwch chwi'r tair hudoles yna?' Y bellaf draw,' eb ef, 'a elwir Balchder, merch hynaf Belial; yr ail yw Pleser; ac Elw ydyw'r nesaf yma: y tair hyn yw'r drindod y mae'r byd yn ei addoli.' Atolygaf henw'r Ddinas fawr wallgofus hon,' ebr fi; 'os oes arni well henw na Bedlam[2] fawr.' 'Oes,' ebr ef, 'hi a elwir y Ddinas Ddienydd.'[3] 'Och fi! ai dynion dienydd,' ebr fi, 'yw'r cwbl sy ynddi?' 'Y cwbl oll,' ebr yntau, oddi eithr ambell un a ddiango allan i'r ddinas uchaf fry, sy tan y Brenin IMMANUEL.' Gwae finnau a'm beiddo! pa fodd y diangant, a hwythau yn llygadrythu fyth ar y peth sy'n eu dallu fwyfwy, ac yn eu hanrheithio yn eu dallineb?' 'Llwyr ammhosibl,' ebr yntau, 'fyddai i undyn ddianc oddi yma, oni bai fod IMMANUEL oddi fry yn danfon ei genadon, hwyr a bore, i'w perswadio[4] i droi ato Ef, eu hunion Frenin, oddi wrth y gwrthryfelwr; ac yn gyru hefyd i ambell un anrheg o enaint gwerthfawr, a elwir ffydd, i iro eu llygaid ; a'r sawl a gaffo'r gwir enaint hwnw (canys mae rhith o hwn, fel o bob peth arall, yn y Ddinas Ddienydd, ond pwy bynag a ymiro â'r iawn enaint) fe wel ei friwiau a'i wallgof, ac nid erys yma fynyd hwy, pe rho’i Belial iddo ei dair merch, ïe, neu'r bedwaredd,[5] sy fwyaf oll, am aros.

Beth y gelwir yr ystrydoedd mawr hyn?' ebr fi. "Gelwir," ebr yntau, "bob un wrth henw'r dywysoges sy'n rheoli ynddi: Ystrŷd Balchder yw'r bellaf; y ganol, Ystrŷd Pleser; y nesaf, Ystrŷd yr Elw. 'Pwy, ertolwg,' ebr fi, sy'n aros yn yr ystrydoedd yma? pa iaith? pa ffordd? pa genedl?' 'Llawer,' ebr ef, o bob iaith, a chrefydd, a chenedl, tan yr

  1. Gosgorddwisg, nodwisg, gwisg: Seis. livery
    Yn adail serch im' ydoedd,
    Un lifrai â Mai im' oedd.—D. ab Gwilym.
    Dewr loew-fryd mewn dur lifrai.— Iolo Goch
  2. 'Bedlam' (oddi wrth Bethlehem, crefydd-dy o'r enw yn Llundain, yr hwn a droed wedi hyny yn yspytty gwallgofiaid)=gwallgofdy, gorphwyllfa; ty gwallgotiaid neu loerigion.
  3. Dinas â dienydd neu ddinystr yn ei haros; dinas distryw
  4. Darbwyllo, ymlewydd, cynghori
  5. Rhagrith. Wedi i'r tair hyn [Balchder, Elw, a Phleser] fyned â'u carcharorion i'r llys i dderbyn eu barn, dyma Ragrith, yn olaf oll, yn arwain cadfa luosocach na'r un o'r lleill.'— Gweledigaeth Uffern. Yn nes ym mlaen (t. 33) gelwir Rhagrith yn ail ferch Belial