Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haul hwn, sy'n byw ym mhob un o'r ystrydoedd mawr obry; a llawer un yn byw ym mhob un o'r tair ystrŷd ar gyrsiau,[1] a phawb nesaf a'r y gallo at y porth: a mynych iawn y mudant,[2] heb fedru fawr aros yn y naill, gan ddäed ganddynt dywysoges ystrŷd arall: a'r hen Gadno, tan ei ysgafell, yn gado i bawb garu ei ddewis, neu'r tair, os myn; sicraf oll yw ef o hono.'

'Tyred yn nes atynt,' eb yr Angel, ac a'm cipiodd i waered yn y llen gel, trwy lawer o fwrllwch[3] diffaith oedd yn codi o'r ddinas; ac yn Ystrŷd Balchder disgynasom ar ben eangle o blasdy penegored mawr, wedi i'r cŵn a'r brain dynu ei lygaid, a'i berchenogion wedi myned i Loegr, neu Ffrainc, i chwilio yno am beth a fuasai can haws i gael gartref; felly yn lle yr hen dylwyth elusengar, daionus, gwladaidd gynt, nid oes yr awran yn cadw meddiant ond fy modryb Dylluan hurt, neu frain rheibus, neu biod brithfeilchion, neu'r cyffelyb, i ddadgan campau y perchenogion presennol. Yr oedd yno fyrdd o'r fath blasau gwrthodedig, a allasai, oni bai falchder, fod fel cynt, yn gyrchfa goreugwyr, yn noddfa i'r gweiniaid, yn ysgol heddwch a phob daioni, ac yn fendith i fil o dai bach o'u hamgylch.

O ben y murddyn[4] yma yr oeddym yn cael digon o le, a llonydd i weled yr holl ystrŷd o'n deutu. Tai teg iawn, rhyfeddol o uchder ac o wychder; ac achos da, o ran bod yno ymherodron, breninoedd, a thywysogion gantoedd, gwŷr mawr a boneddigion fyrdd, a llawer iawn o ferched o bob gradd : gwelwn aml goegen gorniog, fel llong ar lawn hwyl, yn rhodio megys mewn ffram,[5] a chryn siop[6] pedler[7] o'i chwmpas, ac wrth ei chlustiau werth tyddyn da o berlau: a rhai oedd yn canu, i gael canmol eu llais ; rhai yn dawnsio, i ddangos eu llun; ereill oedd yn paentio, i welläu eu lliw; ereill wrth y drych er's teir-awr yn ymbincio, yn dysgu gwenu, yn symmud pinau, yn gwneyd munudiau ac ystumiau. Llawer mursen oedd yno, na wyddai pa sut i agor ei gwefusau i siarad, chweithach i fwyta ; na pha fodd, o wir ddyfosiwn, i

  1. Ar brydiau, ar droion; yn awr a phryd arall: un. cwrs.
  2. Symmudant
  3. Niwl neu darth tew; caddug, tawch
  4. Adfeilion adeilad, adail gandryll, hen adail ar adfail
  5. Frame: ystram, attegwydd, cynnalwydd
  6. Maelfa, gwerthfa
  7. Mannwyddwr, crachwerthwr, crachnwyddwr, marchiatäwr treigl; gwerthwr mân bethau ar hyd y wlad