Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

edrych tan ei thraed; a llawer ysgowl[1] garpiog, a fynai daeru ei bod hi cystal merch foneddig a'r oreu yn yr ystrŷd; a llawer ysgogyn rhygyngog,[2] a allai ridyllio ffa wrth wynt ei gynffon.

A mi yn edrych o bell ar y rhai hyn, a chant o'r fath, dyma yn dyfod heibio i ni globen o beunes fraith ucheldrem, ac o'i lledol gant yn ysbïo; rhai yn ymgrymu megys i'w haddoli; ambell un a ro'i beth yn ei llaw hi. Pan fethodd genyf ddyfeisio beth oedd hi, gofynais. O,' ebr fy Nghyfaill, un yw hon sy a'i chynnysgaeth oll yn y golwg; eto gweli faint sy o rai ffolion yn ei cheisio, a'r gwaelaf yn abl, er sy arni hi o gaffaeliad; hithau ni fyn a gaffo, ni chaiff a ddymuno; ac ni sieryd ond â'i gwell, am ddywedyd o'i mam wrthi, nad oes un gamp waeth ar ferch ieuanc na bod yn ddifalch wrth garu.' Ar hyn, dyma baladr o wr a fuasai yn Alderman,[3] ac mewn llawer o swyddau, yn dyfod allan oddi tanom yn lledu ei esgyll, megys i hedeg, ac yntau prin y gallai ymlwybran o glun i glun, fel ceffyl â phwn, o achos y gest a'r gowt,[4] ac amryw glefydon boneddigaidd ereill: er hyny, ni chait ti ganddo, ond trwy ffafr fawr, un cibedrychiad; â chofio, er dim, ei alw wrth ei holl deitlau a'i swyddau.

Oddi ar hwn trois fy ngolwg tu arall i'r ystrŷd, lle gwelwn glamp o bendefig ieuanc, â lluaws o'i ol, yn deg ei wên, a llaes ei foes, i bawb a'i cyfarfyddai. Rhyfedd,' ebr fi, 'fod hwn a hwn acw yn perthyn i'r un ystrŷd. O, yr un Dywysoges Balchder, sy'n rheoli'r ddau,' ebr yntau: nid yw hwn ond dywedyd yn deg am ei neges; hel clod y mae e'r awran, ac ar fedr, wrth hyny, ymgodi i'r swydd uchaf yn y deyrnas; hawdd ganddo wylo wrth y bobl, faint yw eu cam gan ddrwg swyddogion yn eu gorthrymu; eto ei fawrhâd ei hun, nid llesâd y deyrnas, yw corff y gainc.'

O hir dremio, canfum wrth Borth y Balchder, ddinas deg ar saith fryn,[5] ac ar ben y llys tra ardderchog yr oedd y goron driphlys, a'r cleddyfau, a'r agoriadau yn groesion. Wel, dyma Rufain,' ebr fi , ac yn hon y mae'r Pab yn byw?' 'Ië,

  1. 'Ysgowl'=scold:cecren, hellgre, benyw gecrus, gwraig anynad
  2. Yn cerdded yn goegfalch neu uchelsyth; ymdeith-wastad. Gwel Esa. iii, 16.
  3. Henadur, henuriad dinesig
  4. Y gymmalwst
  5. Sef y Palatinus, y Capitolinus, yr Aventinus, y Ianiculus, y Quirinalis, y Caelius, a'r Esquinalis. Septicollis arx.—Prudentius