Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fynychaf,' eb yr Angel; ond mae ganddo lys ym mhob un o'r ystrydoedd ereill. Gyfeiryd â Rhufain gwelwn ddinas,[1] a llys teg iawn, ag arno wedi ei dyrchafu yn uchel, hanner lleuad[2] ar faner aur; wrth hyn gwybum mai'r Twrc oedd yno. Nesaf at y porth ond y rhai hyn, oedd lys Lewis XIV. o Ffrainc, fel y dëellais wrth ei arfau ef, y tair fflour de lis[3] ar faner arian yng nghrog uchel. Wrth selu[4] ar uchder a mawredd y llysoedd hyn, gwelwn lawer o dramwy o'r naill lys i'r llall, a gofynais beth oedd yr achos. "O! llawer achos tywyll,"[5] eb yr Angel,

sy rhwng y tri phen cyfrwysgryf hyn a'u gilydd; ond er eu bod hwy yn eu tybio eu hunain yn addas ddyweddi i'r tair tywysoges fry, eto nid yw eu gallu a'u dichell ddim wrth y rhai hyny. Ië, ni thybia Belial fawr mo'r holl ddinas (er amled ei breninoedd) yn addas i'w ferched ef. Er ei fod e'n eu cynnyg hwy yn briod i bawb; eto ni roes o'r un yn hollawl i neb erioed. Bu ymorchestu rhwng y tri hyn am danynt: y Twrc, a'i geilw ei hun duw'r ddaiar, a fynai yr hynaf yn briod, sef Balchder: Nag e,' meddai brenin Ffrainc, "myfi piau hòno, sy'n cadw fy holl ddeiliaid yn ei hystrŷd hi, ac hefyd yn dwyn ati lawer o Loegr, a theyrnasoedd ereill. Mynai'r Spaen y Dywysoges Elw, heb waethaf i Holland, a'r holl Iddewon; mynai Loegr y Dywysoges Pleser, heb waethaf i'r Paganiaid. Ond mynai'r Pab y tair, ar well rhesymau na'r lleill i gyd: ac mae Belial yn ei gynnwys e'n nesaf atynt yn y tair ystrŷd. 'Ai am hyny y mae'r tramwy yr awran?' ebr fi. 'Nage e,' ebr ef; cytunodd Belial rhyngddynt yn y mater hwn er's talm. Ond yr awron, fe roes y tri i wasgu eu penau yng nghyd, pa fodd nesaf y gallent ddifa yr ystrŷd groes acw, sef Dinas IMMANUEL, ac yn enwedig un llys mawr sy yno, o wir wenwyn ei weled e'n decach adeilad nag sy'n y Ddinas Ddienydd oll. Ac mae Belial yn addo i'r sawl a wnel hyny, hanner ei freniniaeth tra fo ef byw, a'r cwbl pan fo marw. Ond er maint ei allu a dyfned ei ddichellion

  1. Caer Cystenyn, Constantinopl, prif ddinas Twrci
  2. Hanner lleuad, neu gilgant, yw yr arwydd ar luman y Tyrciaid
  3. Fflour de lis,' neu fleur de lis, sef y gammined, yw y blodeuyn a ddygir ym mhais arfau Ffrainc.
  4. Sylwi, syllu, edrych, craffu
  5. Y mae Dr. Puw, yn ei ddyfyniad o'r lle hwn, yn darllen, 'llawer achaws twyll', ac yn ei gyfieithu yn unol â hyny; ond nid oes neb o'r argraffiadau yn cyfreithloni'r fath ddarlleniad. Peth rhy gyffredin gan y Doethor oedd cyfnewid gwaith awdwyr y dyfynai o honynt.