'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'pa ryw o ddynion yw y rhai hyn?' 'Rhyw Sion lygad y geiniog, eb yntau, 'yw'r cwbl. Yn y pen isaf cei weled y Pab eto, goresgynwr teyrnasoedd, a'u sawdwyr, gorthrymwyr, fforestwyr,[1] cauwyr y drosfa gyffredin,[2] ustusiaid,[3] a'u breibwyr,[4] a'u holl sil,[5] o'r cyfarthwyr hyd at y ceisbwl: o'r tu arall,' ebr ef, mae'r physigwyr, potecariaid,[6] meddygon, cybyddion, marsiandwyr, cribddeilwyr, llogwyr;[7] attalwyr degymau, neu gyflogau, neu renti, neu elusenau a adawsid at ysgolion, elusendai, a'r cyfryw; porthmyn; maelwyr,[8] a fydd yn cadw ac yn codi'r farchnad at eu llaw eu hunain; siopwyr (neu siarpwyr[9]), a elwant ar angen, neu anwybodaeth y prynwr; stiwardiaid[10] bob gradd; clipwyr;[11] tafarnwyr, sy'n ysbeilio teuluoedd yr oferwyr o'u da, a'r wlad o'i haidd at fara i'r tlodion. Hyn oll o garn[12] lladron,' ebr ef; "a mân ladron yw'r lleill, gan mwyaf, sy ym mhen uchaf yr ystrŷd, sef ysbeilwyr ffyrdd, teilwriaid, gwëyddion, melinyddion, mesurwyr gwlyb a sych, a'r cyffelyb.
Yng nghanol hyn, clywn ryw anfad rydwst[13] tua phen isaf yr
- ↑ Ceidwaid coedwigoedd, coedwigwyr
- ↑ Tir cyd, cyttir; maes cyffredin i droi anifeiliaid iddo
- ↑ 3 Ynadon, yngnaid
- ↑ Bribers: cel-obrwyr, gwobrwywyr
- ↑ Hil, hiliogaeth, llinys
- ↑ Apothecaries: darparwfi a gwerthwyr cyfferi meddygol
- ↑ Rhai a roddant arian ar log neu usuriaeth; ocrwyr
- ↑ Trafnidwyr, marchnatwyr, ennillwyr
- ↑ Sharpers: gwŷr twyll a chribddail
- ↑ Stewards: goruchwylwyr.
- ↑ Or Seis. clipper, tebygol; sef y rhai a dociant ymylau arian bath. Nid ymddengys fod clipan (=cardotyn haerllug) yn dwyn perthynas â'r gair.Ceir clipiwr yng ngwaith Madog Dwygraig, cylch 1350
- ↑ Yn yr hen amseroedd, gosodid carn neu garnedd o geryg ar feddau rhyfelwyr a gwroniaid enwog; ac ystyrid hwn yn ddull anrhydeddus o gladdu, fel y mae yn eglur oddi wrth y dyfyniad canlynol:
Y mynydd hagen, y bu y frwydr ynddo, a eilw ciwdawd y wlad y Mynydd Carn; sef yw hyny, Mynydd y Garnedd; canys yno y mae dirfawr garnedd o fain, o dan yr hon y claddwyd rhyswr yng nghynoesoedd gynt.'—Buchedd Gr. ab Cynan
Ond pan ddechreuwyd claddu mewn mynwentydd, a lleoedd cyssegredig, syrthiodd y garn i anarfer, ac felly i anfri; ac ni chleddid neb ond drygweithredwyr yn y dull hwnw. Oddi wrth hyn daeth 'carn ar dy wyneb,' i fod yn ogyfystyr ag ‘yng nghrog y bột ti,' neu ryw ymadrodd cyffelyb. Gan hyny, arwydda carn lleidr, carn fradwr, carn butain, &c., y rhai gwaethaf neu hynotaf o'r nodweddiadau hyny; neu y cyfryw ag a haeddent gael carn ar eu gwyneb. Gweler Geiriadur Cymraeg y Dr. Owain Puw dan y gair Carn. - ↑ 'Grydwst'=twrdd, dadwrdd, trwst, swn, grymial.