Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ystryd, a thyrfa fawr o bobl yn ymdyru tua'r porth, a'r fath ymwthio ac ymdaeru, a wnaeth i mi feddwl fod rhyw ffrae[1] gyffredin ar droed, nes gofyn i'm cyfaill beth oedd y mater. 'Trysor mawr tros ben sy'n y tŵr yna,' eb yr Angel; a'r holl ymgyrch sy i ddewis trysorwr i'r dywysoges yn lle'r Pab a drowyd allan o'r swydd. Felly ninnau aethom i weled y 'Lecsiwn.[2]

Y gwŷr oedd yn sefyll am y swydd oedd y stiwardiaid, y llogwyr, y cyfreithwyr, a'r marsiandwyr; a'r cyfoethocaf o'r cwbl a'i cai: (o biegid pa mwyaf sy genyt, mwyaf gei ac a geisi,—rhyw ddolur diwala sy'n perthyn i'r ystrŷd). Gwrthodwyd y stiwardiaid y cynnys cyntaf, rhag iddynt dlodi yr holl ystrŷd; ac fel y codasent eu plasau ar furddynod eun meistriaid, felly rhag iddynt, o'r diwedd, droi'r dywysoges ei hun allan o feddiant. Yna rhwng y tri ereill yr aeth y ddadl. Mwy o sidanau oedd gan y marsiandwyr; mwy o weithredoedd ar diroedd gan y cyfreithwyr; a mwy o godau llawnion, a biliau[3] a bondiau,[4] gan y llogwyr. ' Hai, ni chytunir heno,' eb yr Angel, 'tyred ymaith; cyfoethocach yw'r cyfreithwyr na'r marsiandwyr; a chyfoethocach yw'r llogwyr na'r cyfreithwyr, a'r stiwardiaid na'r llogwyr, a Belial na'r cwbl; canys ef a'u piau hwy oll, a'u pethau hefyd.'

'I ba beth y mae'r dywysoges yn cadw'r lladron hyn o'i chylch?' ebr fi. 'Beth gymhwysach,' eb yntau, 'a hi yn benlladrones ei hun?' Synais ei glywed e'n galw'r dywysoges felly, a'r boneddigion mwyaf yno yn garn lladron. “Atolwg, fy Arglwydd,' ebr fi, pa fodd y gelwch y pendefigion urddasol yna yn fwy lladron nag ysbeilwyr ffyrdd ?: Nid wyt ti ond ehud,' ebr ef: 'onid yw'r cnaf[5] el â'i gleddyf yn ei law, a'i reibwyr[6] o'i ol, hyd y byd tan ladd a llosgi, a lledrata teyrnasoedd oddi ar eu hiawn berchenogion, ac a ddysgwyl wedi ei addoli yn gyncwerwr,[7] yn waeth na lleidryn, a gymmer bwrs ar y ffordd fawr?—Beth yw teiliwr a ddwg ddarn o frethyn, wrth wr mawr a ddwg allan o'r mynydd ddarn o blwyf? Oni haeddai hwn ei alw yn garn lleidr wrth y llall? Ni ddug

  1. Fray: ffrwgwd, ymrysor, ymrafael.
  2. Election: etholiad
  3. Bills: dyledion, ysgrifau am ddyled
  4. Bonds: ysgrifrwymau, machysgrifau, llythyrau ymrwym
  5. Knave: dyhiryn, diffeithwr, dyn cas, nebwr
  6. Ysbeilwyr, ysglyfwyr, ysgyfaethwyr
  7. Gorchfygwr, buddugwr, goresgynwr