Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwnw ond cinynon[1] oddi arno ef, eithr efe a ddug oddi ar y tlawd fywioliaeth ei anifail, ac wrth hyny ei fywioliaeth yntau a'i weiniaid. Beth yw dwyn dyrnaid o flawd yn y felin, wrth ddwyn cant o hobeidiau[2] i bydru, i gael gwedi werthu un ym mhris pedwar? Beth yw sawdwr lledlwm a ddyco dy ddillad wrth ei gleddyf, wrth y cyfreithiwr a ddwg dy holl ystad oddi arnat, â chwil[3] gŵydd, heb nac iawn na rhwymedi[4] i gael arno? A pheth yw pigwr poced, a ddygo bum-punt, wrth goegiwr dis, a'th ysbeilia o gan-punt mewn traian nos? A pheth yw hwndliwr[5] a'th siomai mewn rhyw hen geffyl methiant,[6] wrth y potecari a'th dwylla o’th arian a'th hoedl hefyd, am ryw hen physigwriaeth fethedig? Ac eto, beth yw'r holl ladron hyn wrth y pen-lladrones fawr yna, sy'n dwyn oddi ar y cwbl yr holl bethau hyn, a’n calonau a'y heneidiau yn niwedd y ffair?'

O'r ystryd fawaidd, annhrefnus hon, ni aethom i ystryd y Dywysoges Pleser; yn hon gwelwn lawer o Frytaniaid, Ffrancod, Italiaid, Paganiaid, &c. Tywysoges lân iawn yr olwg oedd hon, â gwin cymmysg yn y naill law, a chrwth a thelyn yn y llall; ac yn ei thrysorfa, aneirif o bleserau a theganau, i gael cwsmeriaeth pawb, a'u cadw yng ngwasanaeth ei thad. Ië, yr oedd llawer yn dianc i'r ystrŷd fwyn hon i fwrw tristwch en colledion a'u dyledion yn yr ystrydoedd ereill. Yrtryd lawn aruthr oedd hon, o bobl ieuanc yn enwedig; a'r dywysoges yn ofalus am foddio pawb, a chadw saeth i bob nod. Os sychedig wyt, mae i ti yma dy ddewis ddiod: os ceri ganu a dawnsio, cei yma dy wala. Os denodd glendid hon di i chwantio corff merch, nid rhaid iddi ond codi bys ar un o swyddogion ei thad (sy o'i hamgylch bob amser, er nas gwelir), a hwy a drosglwyddant iti fenyw yn ddiattreg; neu gorff putain newydd gladdu, a hwythau ant i mewn iddo yn lle enaid, rhag i ti golli pwrpas mor ddaionus.

  1. Mân ddarnau, mân ddrylliau, tameidiau, llarpiau, darnau, ciniach
  2. Hobaid=mesur, mewn rhai lleoedd o dri, ac mewn ereill o bedwar pwysel; ar arfer gyffredin yng Ngwynedd a Phowys.
  3. Quill: plufen, plufyn; ysgrifell
  4. Ymwared, gwared, meddyginiaeth , gallu i rwymo neu attal: Seis. remedy; Llydaweg, remet.
    Ymadael heb rwymedy;
    A thost ymadael â thir!—Wiliam Lleyn.
  5. Porthmon, ffeiriwr; hudleidr, lleidr penffair; jobber, jockey; swindler
  6. Methiant'=methiannus, methiantus. 'Ei gaethwas ef sy fethiant.'—E. Prys (Salm lxix. 33)