Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yma mae tai teg, a gerddi tra hyfryd; perllanau llawnion; llwyni cysgodol, cymhwys i bob dirgel ymgyfarfod, i ddal adar, ac ambell gwningen wen; afonydd gloew tirion i'w pysgota , meusydd maith, cwmpasog, hawddgar, i erlid ceinach[1] a chadno. Hyd yr ystryd allan, gwelid chwareuon Interlud,[2] siwglaeth,[3] a phob castiau hug, pob rhyw gerdd faswedd dafod a thant, canu baledau, a phob digrifwch; a phob rhyw lendid o feibion a merched yn canu ac yn dawnsio; a llawer o Ystrŷd Balchder yn dyfod yma i gael eu moli a'u haddoli. Yn y tai, gwelem rai ar welyau sidanblu, yn ymdrybaeddu mewn trythyllwch; rhai yn tyngu ac yn rhegu uwch ben y dabler;[4] ereill yn siffrwd[5] y disiau a'r cardiau. Rhai o Ystrŷd Elw, â chanddynt ystafell yn hon, a redent yma â'u harian i'w cyfrif: ond ni aröent fawr, rhag i rai o'r aneirif deganau sy yma eu hudo i ymadael â pheth o'u harian yn ddilog. Gwelwn ereill yn fyrddeidiau yn gwledda, a pheth o bob creadur o'u blaen; a chwedi i bob un, o saig i saig, folera[6] cymmaint o'r dainteithion ag a wnaethai wledd i ddyn cymmedrol tros wythnos, yna bytheirio[7] oedd y gras bwyd; yna moeswch iechyd y brenin; yna iechyd pob cydymaith da, ac felly ym mlaen, i foddi archfa'r[8] bwydydd, a gofalon hefyd; yna tobacco; yna pawb a'i ystori ar ei gymmydog; os gwir, os celwydd, nis gwaeth, am y byddo hi yn ddigrif, neu yn ddiweddar; neu yn sicr, os bydd hi rywbeth gwaradwyddus. O'r diwedd, rhwng ambell fytheiriad trwm, a bod pawb â'i bistol pridd yn chwythu mwg a thân, ac absen i'w gymmydog, a'r llawr yn fudr eisys rhwng colli diod a phoeri, mi ofnais y gallai gastiau butrach na'r rhai hyny fod yn agos, ac a ddeisyfiais gael symmud.

  1. Ysgyfarnog
  2. 'Interlud,' neu interlude, yn briodol a ddynoda ddifyrwch rhwng dau chwareu; chwareu cyfrwng: ond yma golyga chwareu dynwaredol ar fesur cerdd, cyffelyb i rai Thomas Edwards (Twm o'r Nant).
  3. 'Siwglaeth'=jugglery, juggling: hud a lledrith, hudoliaeth, castiau hudol, cynnildeb llaw, chwidogaeth.
  4. Tabler' (o'r Llad. tabula)=clawr yr wyddbwyll; bwrdd y chwareu a elwir yn Seisoneg chess.
  5. Sisial, sibrwd, husting; ond yma, tebygol, golygir cymmysgu y cardiau=to shuffle the cards.
  6. Gloddesta, wttresu, glythu
  7. Neu, brytheirio=cyfogi, ysgyfogi, chwydu, bwrw allan. 'Bytheiriant â'u geneu.' Salm ix. 7.
  8. 'Archfa' (ar chwa)=archwa, arogl, sawyr, sawr, gwynt. 'Archfa' sy lygriad o archwa