Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Oddi yno ni aethom lle clywem drwst mawr, a churo a dwndrio, a chrio a chwerthin, a bloeddio a chanu. Wel, dyma Fedlam yn ddiddadl,' ebr fi. Erbyn i ni fyned i mewn, darfuasai'r ymddygwd;[1] ac un ar y llawr yn glwt; un arall yn bwrw i fyny; un arall yn pendwmpian uwch ben aelwydaid o fflageni[2] tolciog, a darnau pibelli a godardau; a pheth, erbyn ymorol, ydoedd, ond cyfeddach rhwng saith o gymmydogion sychedig:-eurych,[3] a lliwydd, a gof, mwyngloddiwr, ysgubwr simneiau, a phrydydd, ac offeiriad a ddaethai i bregethu sobrwydd, ac i ddangos ynddo ei hun wrthuned o beth yw meddwdod; a dechreu'r ffrwgwd[4] diweddar oedd dadleu ac ymdaeru fuasai rhyngddynt, p'r un oreu o'r seith-ryw a garai bot a phibell; a'r prydydd aethai â'r maes ar bawb ond yr offeiriad; a hwnw, o barch i'w siaced, a gawsai'r gair trechaf, o fod yn ben y cymdeithion da; ac felly cloes y bardd y cwbl ar gân:

'O'r dynion p'le'r adwaenych,
Ar ddaiar faith, saith mor sych?
A'r goreu o'r rhai'n am gwrw rhudd,
Offeiriedyn a phrydydd.'

Wedi llwyr flino ar y moch abrwysg[5] hyn, ni aethom yn nes i'r porth i ysbïo gwalliau i ardderchog lys Cariad, y brenin cibddall, lle hawdd myned i mewn, ac anhawdd myned allan, ag ynddo aneirif o ystafelloedd. Yn y neuadd gyfeiryd â'r drws yr oedd Cuwpid[6] bensyfrdan, â'r ddwy saeth ar ei fwa, yn ergydio gwenwyn nychlyd a elwir blys. Hyd y llawr gwelwn lawer o ferched glân trwsiadus yn rhodio wrth ysgwîr,[7] ac o'u lledol drueiniaid o lanciau yn tremio ar eu tegwch, ac yn erfyn bob un am gael gan ei beunes un ciledrychiad, gan ofni cuwch yn waeth nag angeu; ambell un, tan blygu at lawr, a ro'i lythyr yn llaw ei dduwies, un arall gerdd, a dysgwyl yn ofnus, fel ysgolheigion yn dangos eu tasg

.

  1. Cythrwfi, terfysg, ymdrafael, ymdrafod, trafferth, dyfysgi
  2. Cwpanau, gorflychau
  3. Tincerdd, tincof, gof y dinc.
  4. Terfysg, ymrafael, ymryson
  5. Meddw, brwysg
  6. Neu, Cupid=duw cariad, yn ol chwedlau y beirdd Cenedlig
  7. Ysgwâr, petryalai, lluniodr; offeryn i wneyd peth yn ysgwâr neu betryal
    A'i linyn yw'r gog lonydd,
    A'i sgwîr yw cos y gwŷdd.—D. ab Gwilym