Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w meistr; a hwythau a roent ambell gip o wên gynffonog, i gadw eu haddolwyr mewn awch, ond nid dim ychwaneg, rhag iddynt dori eu blys, a myned yn iach o'r clwyf, ac ymadael. Myned ym mlaen i'r parlwr,[1] gwelwn ddysgu dawnsio, a chanu â llais ac â llaw, i yru eu cariadau yn saith ynfytach nag oeddynt eisys: myned' i'r bwytty, dysgu yr oeddid yno wersi o gymhendod mindlws wrth fwyta: myned i'r seler, yno cymmysgu diodydd cryfion o swyn serch, o greifion ewinedd, a'r cyffelyb: myned i fyny llofftydd, gwelem un mewn ystafell ddirgel yn gwneyd pob ystumian[2] arno ci hun, i ddysgu moes boneddigaidd i'w gariad; un arall mewn drych yn dysgu chwerthin yn gymhwys, heb ddangos i'w gariad ormod o'i ddannedd; un arall yn tacluso ei chwedl erbyn myned ati hi, ac yn dywedyd yr un wers ganwaith trosti. Blino ar y ffiloreg ddiflas hòno, a myned i gell arall; yno yr oedd pendefig wedi cyrchu bardd o Ystrŷd Balchder, i wneyd cerdd fawl i'w angyles, a chywydd moliant iddo ei hun; a'r bardd yn dadgan ei gelfyddyd, ' Mi fedraf,' ebr ef, 'ei chyffelybu hi i bob coch a gwyn tan yr haul, a'i gwallt hi i gan peth melynach na'r aur; ac am eich cywydd chwithau, medraf ddwyn eich achau trwy berfedd llawer o farchogion a thywysogion, a thrwy'r dwr diluw, a'r cwbl yn glir hyd at Adda. Wel, dyma fardd,' ebr fi, 'sy well Olrheiniwr na mi.' 'Tyred, tyred,' eb yr Angel, mae y rhai hyn ar fedr twyllo'r fenyw; ond pan elont ati, bid sicr y cânt ateb cast am gast.'

Wrth ymadeal â'r rhai hyn, gwelsom gip ar gelloedd lle yr oeddid yn gwneyd castiau bryntach nag y gad gwylder eu henwi (yr hyn) a wnaeth i'm cydymaith fy nghipio i yn ddigllon o'r llys penchwiban yma, i drysordy'r dywysoges (o blegid ni aem lle chwennychem, er na dorau na chloiau). Yno gwelem fyrdd o ferched glân, pob diodydd, ffrwythydd, dainteithion, pob rhyw offer a llyfrau cerdd dafod a thant, telynau, pibau, cywyddau, carolau, &c.; pob math o chwareuon tawlbwrdd,[3]

  1. Neu, parlawr; ymddyddanfa.
    Ein parlwr glas cwmpasawg
    Aeth yn fwth rhy rwth yr hawg.—D. ab Gwilym
  2. Lluniau, ffurfiau, munudiau.
  3. Tawlbwrdd,' neu tawlfwrdd=y chwareu a elwir yn Seisoneg draughts, neu backgammon. Ffristial'=chwareu yn cyfateb i dice y Seison. Chwareu gwyddbwyll, chwareu tawlbwrdd, chwareu ffristial, a chyweirio telyn, oedd y pedair gogamp yn 24 Camp Cymru yn yr oesoedd gynt.