Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffristial, disiau, cardiau, &c.; pob lluniau gwledydd, a threfi, a dynion, a dyfeisiau, a chastiau digrif; pob dyfroedd, peraroglau, a lliwiau, ac ysmotiau, i wneyd yr wrthun yn lân, a'r hen i edrych yn ieuanc, ac i sawyr y butain a'i hesgyrn pwdr fod beraidd tros Ar fyr, yr oedd yno bob math o gysgodion pleser, a rhith hyfrydwch: ac o ddywedyd y gwir, ni choeliaf fi na walliasai'r[1] fan yma finnau, oni buasai i'm cyfaill, yn ddiymanerch,[2] fy nghipio i ym mhell oddi wrth y tri thŵr hudol i ben uchaf yr ystrydoedd, a'm disgyn i wrth gastell o lys anferthol o faint, a thirion iawn yr olwg cyntaf, ond gwael a gwrthun arswydus o'r tu pellaf; eto ni welid ond yn anhawdd iawn mo'r tu gwrthun; a myrdd o ddrysau oedd arno, a'r holl ddorau yn wych y tu allan, ond yn bwdr y tu mewn. 'Atolwg, fy Arglwydd,' ebr fi, os rhyngai eich bodd, pa le yw'r fan ryfeddol hon?' 'Hwn,' ebr ef, 'yw llys ail ferch Belial, a elwir Rhagrith: yma mae hi yn cadw ei hysgol; ac nid oes na mab na merch o fewn yr holl ddinas, na fu yn ysgolheigion iddi hi, a'r rhan fwyaf yn yfed eu dysg yn odiaeth; fel y gwelir ei gwersi hi wedi myned yn ail natur yn gyfrodedd[3] trwy eu holl feddyliau, geiriau, a gweithredoedd, agos er yn blant.'

Wedi i mi ysbïo ennyd ar ffalsder pob cwr o'r adeilad, dyma ganhebrwng[4] yn myned heibio, a myrdd o wylo ac ochain, a llawer o ddynion a cheffylau wedi eu hulio mewn galarwisgoedd duon: ym mhen ennyd, dyma'r druan weddw, wedi ei mygydu rhag edrych mwy ar y byd brwnt yma, yn dyfod tan leisio yn wan, ac ocheneidio yn llesg rhwng llesmeiriau. Yn wir, ni fedrais innau nad wylais beth o dosturi. 'Ië, ïe', eb yr Angel, 'cedwch eich dagrau at rywbeth rheitiach: nid yw'r lleisiau hyn ond dysg Rhagrith; ac yn ei hysgol

  1. 'Gwallio'=cael gwall ar; gyru ar wall neu ar gyfeiliorn; maglu, rhwydo; dallu. Mae y Dr. Puw (yn ei Eiriadur, d. g. Diymanerch), ac hefyd argraffiad 1811, a'r holl argraffiadau diweddarach, yn darllen dallasai;' ond gwalliasai, neu, yn ol yr arddygraff arferedig y pryd hwnw, 'gwalliasei,' sydd yn argraffiad yr awdwr ei hun, ac ym mhob un arall a ymddangosodd yn ystod y ganrif ddiweddaf, ond un 1767.
    Chwi rai glân o bryd a gwedd,
    Sy'n gwallio gorseddfeinciau, &c.—Cerdd Gweledigaeth Angeu.
  2. Yn ddioed, yn ddiymaros; heb gymmeryd amser i siarad; yn ddiddefod
  3. Cydblethedig, cydwenedig; wedi eu cydwau neu gydblethu
  4. Cynhebrwng, angladd, claddedigaeth