Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

barch; ond trwy eich cenad, ni roes ef hanner a haeddai fy arglwyddes o glod. 'Ni cheisiaf,' ebr ef, 'ond gwaethaf ungwr ddangos ei glanach hi yn holl Ystrŷd Balchder, na'ch gwychach chwithau yn holl Ystrŷd Pleser, na'ch mwynaeh chwithau, fy ewythr, yn Ystrŷd yr Elw'. 'O, eich tyb dda chwi,' eb yr arglwydd, 'yw hyny; ond ni choeliaf fi fyned o ddau yng nghyd erioed trwy fwy o gariad na ninnau.' Fel yr oeddynt yn myned ym mlaen, yr oedd y dyrfa yn cynnyddu, a phawb yn deg ei wên ac yn llaes ei foes i'r llall, ac yn rhedeg i ymgyffwrdd â'u trwynau gan lawr, fel dau geiliog a fyddai yn myned i daro.

Gwybydd, weithian,' eb yr angel, na welaist ti eto foes, ac na chlywaist yma air, ond o wersi Rhagrith. Nid oes yma un, wedi'r holl fwynder, â chanddo ffyrlingwerth o gariad i'r llall; ïe, gelynion yw llawer o honynt i'w gilydd. Nid yw yr arglwydd yma ond megys cyff cler[1] rhyngthynt, a phawb â'i grap arno. Mae'r feinir â'i bryd ar ei fawredd a'i fonedd ef, modd y caffo hi'r blaen ar lawer o'i chymmydogesau. Y cot[2] sy â'i olwg ar ei dir ef i'w fab ei hun; y lleill i gyd ar arian ei gynnysgaeth ef; o blegid ei ddeiliaid ef ydynt oll, sef ei farsiandwyr, ei deilwriaid, ei gryddion, a'i grefftwyr ereill ef, a'i huliodd[3] ac a'i maentumiodd[4] e'n yr holl wychder mawr hwn, ac heb gael ffyrling eto, nac yn debyg i gael, ond geiriau teg, ac weithiau fygythion ond odid. Bellach, pa sawl to, pa sawl plyg, a roes Rhagrith yma ar wyneb y Gwirionedd! Hwn yn addo mawredd i'w gariad, ac yntau ar werthu ei dir; hithau yn addo cynnysgaeth a glendid, heb feddu ond glendid gosod, a'r hen gancr yn ei chynnysgaeth a'i chorff hefyd.'

'Wel, dyma arwydd,' ebr fi, 'na ddylid fyth farnu wrth y golwg.' 'Ië, tyred ym mlaen,' ebr ef, a dangosaf i ti beth ychwaneg.' Ar y gair, fe a'm trosglwyddodd i fyny lle yr oedd Eglwysi'r Ddinas Ddienydd; canys yr oedd rhith o grefydd

  1. 'Cyff cler'=un â phawb yn ei oganu, neu yn chwerthin am ei ben; cyff gwawd, gwatwargyff, nod y gwatwar.
    Os yfaist gwpan lawn o'i lid,
    A'th doi â gwrid a gwradwydd;
    Od wyt gyff cler a bustl i'r byd,
    Fe'th gyfyd i fodlonrwydd.—Gronwy Owain
  2. 'Cot' (o cod)=codog, cotyn; cybydd
  3. Gwisgodd, hwyliodd, taclodd, trwsiodd
  4. Myntumiodd, cynnaliodd, cadwodd