Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy dyllau cloiau i ben rhyw gell neillduol, llawn o ganwyllau ganol dydd goleu, lle gwelem offeiriad wedi eillio ei goryn yn rhodio, ac megys yn dysgwyl rhai ato: yn y man, dyma globen o wraig, â llances lân o'i hol, yn myned ar ei gliniau o'i faen ef, i gyfaddef ei phechodau. Ty nhad ysbrydol,' ebr y wreigdda, 'mae arnaf faich rhydrwm ei oddef, oni chaf eich trugaredd i'w ysgafnhau; mi briodais un o Eglwys Loegr.' 'Ac, pa beth?' ebr y corynfoel, 'priodi heretic! priodi gelyn! nid oes fyth faddeuant i'w gael. Ar y gair hwnw hi a lesmeiriodd, ac yntau yn bugunad melltithion arni. Och, a pheth sy waethi,' ebr hi, pan ddadebrodd, 'mi a'i lleddais ef!'-O, ho! a leddaist ti ef? wel, dyma rywbeth at gael cymmod yr eglwys; yr wyf fi yn dywedyd iti, ond bai ladd o honot ef, ni chawsit fyth ollyngdod, na phurdan, ond myned yn union i ddiawl wrth blwm. Ond pa le mae eich offrwm chwi, 'r faeden,[1] ebr ef, tan ysgyrnu[2] 'Dyma,' ebr hi; ac estynodd gryn god o arian. Wel,' ebr yntau, 'bellach mi wnaf eich cymmod; eich penyd yw bod byth yn weddw, rhag i chwi wneyd drwg fargen arall. Pan aeth hi ymaith, dyma'r forwyn yn dyfod ym mlaen i draethu ei chyffes hithau. 'Eich pardwn, fy nhad cyffeswr,' ebr hi, mi a feichiogais, ac a leddais fy mhlentyn.' 'Teg iawn yn wir,' ebr y cyffeswr; 'a phwy oedd y tad? Yn wir, un o'ch monachod chwi,' ebr hi. Ust, ust,' eb ef, dim anair i wŷr yr eglwys;[3] pa le mae'r iawn i'r eglwys sy genych?'

Dyma, ebr hithau, ac a estynodd iddo euryn.[4] Rhaid i chwi edifarhau; a'ch penyd yw, gwylied wrth fy ngwely i heno,' ebr ef, tan gilwenu arni hi. Yn hyn, dyma bedwar o rai moelion ereill yn llusgo dynan[5] at y cyffeswr; ac yntau yn dyfod mor wyllysgar ag at grogbren. Dyma i chwi geneu,' ebr un o'r pedwar, 'i ddwyn ei benyd am ddadguddio dirgelion yr Eglwys Gatholig.' 'Pa beth,' ebr y cyffeswr, tan edrych ar ryw siêl[6] ddu oedd yno ger llaw: 'ond cyffesa, filain, beth a ddywedaist ti?' 'Yn wir,' eb y truan, 'cymmydog a ofynodd i mi, a welswn i yr eneidiau yn griddfan tan yr allor, Ddygwyl y Meirw; minnau ddywedais glywed y llais, ond

  1. Neu, maden=cecren: llances haerllug, eithaf llances
  2. Rhincian dannedd, noethi dannedd; chwyrnu
  3. Hen ddiareb. Gwel y Myvyrian Archaiology, iii. 182
  4. Darn neu ddryll o aur
  5. Dynyn, dyn gwael: ll. dynionach
  6. Jail: carchar, geol