Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagrith yn cadw llawer, ag un llygad ar y ddinas uchaf, a'r llall ar yr isaf; ïe, mae Rhagrith cyn lewed a thwyllo llawer o'u ffordd, wedi iddynt orfod y tair hudoles ereill. Tyred i mewn yma, cei weled ychwaneg,' ebr ef, ac a'm cipiodd i lofft y grog un o eglwysi Cymru, a'r bobl ar ganol y gwasanaeth: yno gwelem rai yn sisial siarad; rhai yn chwerthin; rhai yn tremio ar ferched glân; ereill yn darllen gwisgiad eu cymmydog o'r coryn i'r sawdl; rhai yn ymwthio ac yn ymddanneddu[1] am eu braint; rhai yn hepian; ereill yn ddyfal ar eu dyfosiwn;[2] a llawer o'r rhai hyny hefyd yn rhagrithio. 'Ni welaist ti eto,' eb yr Angel, 'na dda, ym mysg yr anghred, ddigywilydddra mor oleu gyhoedd a hwn; ond felly mae, ysywaeth, llygriad y peth gorau yw'r llygriad gwaethaf oll.[3] Yna hwy a aethant i'r cymmun; a phob un yn ymddangos yn syrn barchus i'r allor. Er hyny (trwy ddrych fy nghyfaill) gwelwn ambell un gyda'r bara yn derbyn i'w fol megys llun mastiff, un arall dwrch daiar, un arall megys eryr, un arall fochyn, un arall megys sarff hedegog; ac ychydig, O! mor ychydig, yn derbyn pelydryn o oleuni dysglaer gyda'r bara a'r gwin. Dyna,' ebr ef, ' Rowndiad [4] sy'n myned yn siryf; ac o ran bod y gyfraith yn gofyn cymmuno yn yr Eglwys cyn cael swydd,[5] yntau a ddaeth yma rhag ei cholli: ac er bod yma rai yn llawenu ei weled ef, ni bu eto yn ein plith ni ddim llawenydd o'i dröedigaeth ef; wrth hyny ni throes ef, ysywaeth, ond tros y tro; ac felly ti weli fod Rhagrith yn dra hy ddyfod at yr allor o flaen IMMANUEL ddisiomedig. Ond er maint yw hi yn y Ddinas Ddienydd, ni all hithau ddim yn Ninas IMMANUEL, tu uchaf y gaer acw.'

Ar y gair, ni a droisom ein hwynebau oddi wrth y Ddinas fawr Ddienydd, ac aethom ar i fyny, tua'r ddinas fach arall: wrth fyned, gwelem ym mhen uchaf yr ystrydoedd lawer wedi llettroi oddi wrth hudoliaeth y Pyrth Dienydd, ac yn ymorol am Borth y Bywyd; ond naill ai methent ei gael, ai blinent ar y ffordd; nid oedd fawr iawn yn myned trwodd, oddi eithr un dyn wynebdrist oedd yn rhedeg o ddifrif, a myrdd o'i ddeutu

  1. Dyhewyd, duwiolswydd
  2. Dyhewyd, duwiolswydd
  3. Diareb Gymreig
  4. Roundhead: pengrwn, pengryniad (ll. pengryniaid): enw a roddid gynt i'r Coethynion neu yr Anghydffurfwyr, oddi wrth eu harfer, meddir, o dori eu gwallt yn grwn ac yn gwta
  5. Y mae'r gyfraith hon wedi ei diddymu