Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni edrychasawn i fawr nad dyma'r gwylwyr yn dechreu gwaeddi ar y dynion dienydd, 'Ffowch, ffowch am eich einioes! Ond ychydig a dro'i unwaith atynt; eto rhai a ofynent, 'Ffoi rhag pa beth?' 'Rhag tywysog y byd hwn, sy'n llywodraethu ym mhlant yr anufudd-dod,' meddai'r gwyliwr; rhag y llygredigaeth sy'n y byd trwy chwant y cnawd, chwant y llygad, a balchder y bywyd; rhag y digofaint sy ar ddyfod arnoch.' 'Beth,' ebr gwyliwr arall, yw eich anwyl ddinas chwi, ond taflod fawr o boethfel[1] uwch ben uffern? a phetäech chwi yma, caech weled y tân tu draw i'ch caerau ar ymgymmeryd i'ch llosgi hyd annwfn. Rhai a'u gwatwarai; rhai a fygythiai oni thawent â'u lol anfoesol; eto ambell un a ofynai, 'I ba le y ffown?' Yma,' meddai'r gwylwyr, 'ffowch yma at eich union Frenin, sy eto trwom ni yn cynnyg i chwi gymmod, os trowch i'ch ufuddod-dod oddi wrth y gwrthryfelwr Belial, a'i hudol ferched. Er gwyched yr olwg arnynt, nid yw ond ffug; nid yw Belial ond tywysog tlawd iawn gartref; nid oes ganddo yno ond chwi yn gynnud[2] ar y tân, a chwi yn rhost ac yn ferw i'ch cnoi, ac byth nid ewch yn ddigon; byth ni ddaw tor ar ei newyn ef, na'ch poen chwithau. A phwy a wasanaethai'r fath gigydd maleisddrwg, mewn gwallgof ennyd, ac mewn dirboenau byth wedi, ag a allai gael byd da tan Frenin tosturiol a charedig i'w ddeiliaid, heb wneyd iddynt erioed ond y daioni bwygilydd, a'u cadw rhag Belial, i roi teyrnas i bob un o'r diwedd yng ngwlad y goleuni! O, ynfydion! a gymmerwch chwi'r gelyn echryslawn yna, sydd â'i geg yn llosgi o syched am eich gwaed, yn lle'r Tywysog trugarog a roes ei waed ci hun i'ch achub?' Eto, ni wyddid fod y rhesymau hyn, a feddalhäi graig, yn llesio fawr iddynt hwy; a'r achos fwyaf oedd, nad oedd fawr yn cael hamdden i'w gwrando, gan edrych ar y pyrth; ac o'r gwrandawyr, nid oedd fawr yn ystyried; ac o'r rhai hyny nid oedd fawr yn eu cofio chwaith hir;[3] rhai ni choelient mai Belial yr oeddynt yn ei wasanaethu; ereill [ni] fynent

  1. Cyfnewidiad, tebygol, o poethwal. Y mae poethwal yn air cyffredin yn Lleyn, a manau ereill o Wynedd; a'i ystyr yw, goddaith a roir mewn eithin, grug, neu'r cyffelyb; eithin neu rug a losgir ar eu traed. Y mae hyn yn debycach na'i fod yn dalfyriad o poeth ufel, neu ufel poeth, fel y tybia rhai. 'Ym mhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfëydd, i ben un o'r creigiau llosg, i rostio fel poethfel.'—Gweledigaeth Uffern
  2. Tanwydd
  3. Chwaith yn hir,' argraffiadau diweddar