Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

puteiniaid, a'ch holl gêr[1] ereill, o'ch ol, ac yna brysiwch.' Ebr ffidler,[2] a fuasai trwodd er's ennyd, oni bai rhag ofn tori'r ffidl,[3] 'Pa fodd y byddwn ni byw?' 'O', ebr y gwyliwr, rhaid i chwi gymmeryd gair y Brenin am yru ar eich ol gynnifer o'r pethau yna a'r a fo da er eich lles.' Rhoes hyny 'r cwbl i ymwrando: 'Hai, hai,' ebr un, 'gwell aderyn mewn llaw na dau mewn llwyn;' ac ar hyny troisant oll yn unfryd yn eu hol.

'Tyred trwodd weithian,' eb yr Angel, ac a'm tynodd i mewn, lle gwelwn yn y porth, yn gyntaf, fedyddfaen mawr; ac yn ei ymyl, ffynnon o ddwr hallt. Beth a wna hon ar lygad y ffordd?' ebr fi. 'Am fod yn rhaid i bawb ymolchi ynddi cyn cael braint yn llys IMMANUEL; hi a elwir Ffynnon Edifeirwch. Uwch ben, gwelwn yn ysgrifenedig, 'Dyma borth yr Arglwydd,' &c. Yr oedd y porth a'r Ystrŷd hefyd yn lledu ac yn ysgafnhau fel yr elid ym mlaen. Pan aethom ronyn uwch i'r ystrŷd, clywn lais araf yn dywedyd o'm hol, 'Dyna'r ffordd, rhodia ynddi'. Yr oedd yr Ystrŷd ar orifyny, eto yn bur lân ac union; ac er nad oedd y tai ond is yma nag yn y Ddinas Ddienydd, eto yr oeddynt yn dirionach; os oes yma lai o feddiannau, mae yma hefyd lai o ymryson a gofalon; os oes llai o seigiau, mae llai o ddoluriau; os oes llai o drwst, mae hefyd lai o dristwch, a mwy yn sicr o wir lawenydd. Bu ryfedd genyf y dystawrwydd a'r tawelwch hawddgar oedd yma wrth i waered. Yn lle'r tyngu, a'r rhegu, a'r gwawdio, a phuteinio, a meddwi; yn lle balchder ac oferedd; y syrthni yn y naill gwr, a thrawsni yn y cwr arall; ïe, yn lle yr holl ffrio ffair, a'r ffrost, a'r ffrwst, a'r ffrwgwd, oedd yno yn pendifadu[4] dynion yn ddibaid; ac yn lle yr aneirif ddrygau gwastadol oedd isod, ni welit ti yma ond sobrwydd, mwynder a sirioldeb, heddwch a diolchgarwch, tosturi, diniweidrwydd, a bodlonrwydd, yn eglur yn wyneb pob dyn; oddi eithr ambell un a wylai yn ddystaw o fryntni fod cyd yn Ninas y Gelyn. Nid oedd yma na chas, na llid, ond i bechod, ac yn sicr o orchfygu hwnw; dim ofn, ond rhag digio eu Brenin, a hwnw yn barotoch i gymmodi nag i ddigio wrth ei ddeiliaid; na dim swn, ond Salmau mawl i'w Ceidwad.

  1. Taclau, celfi, pethach
  2. Crythor, ffilor
  3. Crwth, ofîeryn cerdd dannau
  4. Pensyfrdanu, penwanu, penddaru, syfrdanu