Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Erbyn hyn, ni aethem i olwg adeilad deg tros ben. o, mor ogoneddus ydoedd! Ni fedd neb yn y Ddinas Ddienydd, na'r Twrc[1], na'r Mogul[2], na'r un o'r lleill, ddim eilfydd i hon. 'Wel, dyma'r Eglwys Gatholig,' eb yr Angel. 'Ai yma mae IMMANUEL yn cadw ei lys?' ebr fi. 'Ie,' ebr ef, 'dyma ei unig freninllys daiarol ef.' 'Oes yma nemor tano ef o benau coronog?' ebr fi. Ychydig,' ebr yntau. 'Mae dy frenines di, a rhai tywysogion Llychlyn[3] a'r Ellmyn[4], ac ychydig o fân dywysogion ereill.' Beth yw hyny,' ebr finnau, 'wrth sy dan Belial fawr? wele ymherodron a breninoedd heb rifedi." 'Er hyny i gyd,' eb yr Angel, 'ni all un o honynt oll symmud bys llaw heb gynnwysiad[5] IMMANUEL; na Belial ei hunan chwaith. O blegid IMMANUEL yw ei union Frenin yntau, ond darfod iddo wrthryfela, a chael ei gadwyno am hyny yn garcharor tragwyddol; eithr mae e'n cael cenad eto tros ennyd fach i ymweled â'r Ddinas Ddienydd; ac yn tynu pawb a'r a allo i'r un gwrthryfel, ac i gael rhan o'r gosp: er y gwyr ef na wna hyny ond chwanegu ei gosp ei hun; eto ni ad malais a chenfigen iddo beidio, pan gaffo ystlys cenad: a chan ddäed ganddo ddrygioni, fe gais ddifa'r ddinas a'r adeilad hon, er y gŵyr e'n hen iawn fod ei Cheidwad hi yn anorchfygol.'

Ertolwg,' ebr fi, 'fy Arglwydd, a gawn i nesäu i gael manylach golwg ar y breninlle godidog hwn?' (canys cynhesasai fy nghalon i wrth y lle, or y golwg cyntaf.) Cei yn hawdd,' eb yr Angel, 'o blegid yna mae fy lle, a'm siars, a'm gorchwyl innau. Pa nesaf yr awn ati, mwyfwy y rhyfeddwn uchod, gryfod a hardded, laned a hawddgared, oedd pob rhan o honi; gywreinied y gwaith, a chariadused y defnyddiau. Craig ddirfawr, o waith a chadernid annhraethawl, oedd y sylfaen; a meini bywiol ar hyny, wedi eu gosod a'u cyssylltu mewn trefn mor odidog, nad oedd bosibl i un

  1. Y Sultan, neu ymherawdwr y Tyrciaid.
  2. Ymherodraeth y Mogul y gelwid yr ymherodraeth hòno a sylfaenwyd yn Hindwstan, gan Baber, un o olynwyr Timwr neu Tamerlan, yn yr 16fed ganrif. Yr olaf a ddug yr enw hwn ydoedd Shah Alwm; a chyda'i farwolaeth ef, yn 1806, y terfynodd yinherodraeth y Mogul Mawr.
  3. Y gwledydd sy'n terfynu ar y Môr Baltig, megys Denmarc, Sweden, &c.; gogledd Ewrop: Scandinavia.
  4. Yn briodol, yr Almaeniaid, trigolion yr Almaen, neu Sermania; ond yma, arferir y gair am yr Almaen, neu wlad yr Ellmyn; a defnyddir ef yn yr un ystyr yng Ngweledigaeth Uffern.
  5. Caniatâd, cenad, goddefiad.