Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

maen fod cyn hardded mewn unlle arall ag ydoedd ef yn ei le ei hun. Gwelwn un rhan o'r eglwys yn taflu allan yn groes[1] glandeg a hynod iawn; chanfu yr Angel fi yn ysbio arno. A adwaenost ti y rhan yna?' ebr ef. Ni wyddwn i beth i ateb. 'Dyna Eglwys Loegr,' ebr ef. Mi gyffroais beth; ac wedi edrych i fyny, mi welwn y Frenines Ann[2] ar ben yr eglwys, â chleddyf ym mhob llaw; un yn yr aswy a elwid Cyfiawnder, i gadw ei deiliaid rhag dynion y Ddinas Ddienydd; a'r llall yn ei llaw ddeheu, i'w cadw rhag Belial a'i ddrygau ysbrydol: hwn a elwid Cleddyf yr Ysbryd, neu Air Duw. O tan y cleddyf aswy yr oedd llyfr Ystatut[3] Loegr; tan y llall yr oedd Beibl mawr. Cleddyf yr Ysbryd oedd danllyd, ac anferthol o hyd; fe laddai ym mhellach nag y cyffyrddai'r llall. Gwelwn y tywysogion ereill â'r un rhyw arfau yn amddiffyn eu rhan hwythau o'r eglwys; eithr tecaf gwelwn i ran fy mrenines fy hun, a gloewaf ei harfau. Wrth ei deheulaw hi, gwelwn fyrdd o rai duon, archesgobion, esgobion, a dysgawdwyr, yn cynnal gyda hi yng Nghleddyf yr Ysbryd a rhai sawdwyr, a swyddogion, ond ychydig o'r cyfreithwyr, oedd yn cydgynnal yn y cleddyf arall. Ces genad i orphwyso peth wrth un o'r drysau gogoneddus, lle yr oedd rhai yn dyfod i gael braint yn yr Eglwys Gyffredin, ac Angel tal yn cadw'r drws: a'r eglwys oddi mewn mor oleu danbaid, nad oedd wiw i Ragrith ddangos yno mo'i hwyneb; eto hi ymddangosai weithiau wrth y drws, er nad aeth hi erioed i mewn. Fel y gwelais i, o fewn chwarter awr, dyma Bapist, oedd yn tybio mai'r Pab a pioedd yr Eglwys Gatholig, yn cleimio[4] fod iddo yntau fraint. Beth sy genych i brofi eich braint?' ebr y porthor. Mae genyf ddigon,' ebr hwnw, 'o Draddodiadau'r Tadau, ac Eisteddfodau yr Eglwys; ond pam y rhaid i mi fwy o sicrwydd,' ebr ef, 'na gair y Pab sy'n eistedd yn y gadair ddisiomedig?' Yna yr egorodd y porthor lwyth o Feibl dirfawr o faint. 'Dyma,' ebr ef, 'ein hunig lyfr Ystatut ni yma; profwch eich hawl o hwn, neu ymadewch.' Ar hyn fe ymadawodd.

  1. Yr hyn a elwir transept gan adeilyddion Seisonig. Yn yr ystyr hwn, arferir y gair, fel y gwneir yma, yn yr ystlen wrywol.
  2. Tan ei theyrnasiad hi, yr hwn a dlechreuodd Mawrth 8, 1702, ac a derfynodd Awst 12, 1714, y cyhoeddai yr awdwr y gwaith hwn.
  3. Deddflyfr, llyfr cyfraith.
  4. Claim: honi hawl, arddelwi, honi.