Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Pob rhan o'r adail aeth yn wan;
Mae'r eil[1] a'r seler,
Trwy frad y dyfnder,
Yn crynu'n 'sgeler,
Mewn llawer llesmair llesg,
A'r barth perllanog llawnwyn,[2]
Heb ddwyn ond chwyn a hesg.
Mae'r gaer, a'r muriau, cleimiau[3] claer,
A'r to, ar ddadmer,[4]
Er maint eu cryfder,
Anfeidrol uchder,
A'u gwychder, frithder fry;
Mae'r dreigiau yn darogan
Fod perygl tân yn ty.[5]

3. Gwel, ddyn, adeilad fawrwych,
O'r eigion mawr i'r entrych,
Ar untroed enbyd;
Mae'r llawr i gyd ar d'ollwng,
Maluriwyd hwn hyd annwn,
Yn donen ddybryd:

  1. Ymddengys fod y gair hwn wedi peri peth dyryswch i gyhooddwyr argraffiadau blaenorol; canys darllen rhai 'ail,' ereill "sail,' ac ercill 'ael'. Ond diau mai aisle (=asgell neu ystlys adeilad) a olygir; ac os llythyrenir ef eil, arddengys sain y gair Seisoneg yn well, a bydd lai agored i gael ei gamddeall na phed ysgrifenid ef ail neu ael, er mai y blaenaf yw y ffurf a geir yn argraffiad yr awdwr ei hun.
  2. 'Llawnwyn' (o llawn, a gwyn, hyfryd, dymunol; hyfrydwch)=llawn a hyfryd; llawn hyfrydwch. Llownwyn' yw llythyreriad arg. 1703 a 1774; 'llownwyd yw darlleniad dau argraffiad Durston, ac un 1768, yr hwn, wedi ei newid i 'llanwyd,' a ddilynwyd gan yr holl argraffiadau diweddar, ond un Caernarfon, yr hwn a'i trodd i 'llonwyn,' 'Llanwyd' yw darlleniad y Dr. Puw, yr hwn (d. g Perllanawg) a gyfieitha y lle fel hyn: 'Every part of the structure, on a region abounding with orchards, was filled, without producing any thing but weeds and reeds."
    Ond gan fod llawnwyn' yn dygymmod yn llawn cystal a 'llanwyd' ag ystyr y lle, ac yn llawer gwell a'r mydr a'r cyfodliad, nid ymddengys un rheswm pa ham y dylid ymadael â darlleniad yr awdwr, fel ei gwelir yn yr argraffiad cyntaf.
  3. Os yw 'cleimiau claer' (o'r Seis. claim) yn ddarlleniad cywir, nid yw yr ymadrodd amgen na geiriau llanw, i helpu'r mesur a'r gynghanedd. Buasai clemiau claer yn rhoddi rhyw fath o ystyr.
  4. Dadlaith, dadleithio, ymddattod, meiriol.
  5. 'Yn ty'=yn y ty: yr un fath ag 'yn tân, yn y Beibl Cymraeg, yn lle yn y tân, mewn tân, neu i'r tân.