Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II

GWELEDIGAETH ANGEU YN EI FRENINLLYS ISAF.

PAN oedd Phoebus[1] unllygeidiog ar gyrhaedd ei eithaf benod yn y Deheu, ac yn dal gwg o hirbell ar Brydain Fawr, a'r holl Ogledd-dir; ryw hirnos gauaf dduoer, pan oedd hi yn llawer twymnach yng nghegin Glyn Cywarch[2] nag ar ben Cader Idris, ac yn well mewn ystafell glyd gyda chywely cynhes, nag mewn amdo ym mhorth y fonwent; myfyrio yr oeddwn i ar ryw ymddyddanion a fuasai wrth y tân rhyngof fi a chymmydog, am fyrdra hoedl dyn, a sicred yw i bawb farw, ac ansicred yr amser;[3] a hyn, newydd roi fy mhen i lawr, ac yn lled-effro, mi glywn bwys mawr yn dyfod arnaf yn lledradaidd o'm coryn i'm sawdl, fel na allwn symmud bys llaw, ond y tafod yn unig; a gwelwn megys mab ar fy nwyfron, a merch ar gefn hyny. Erbyn craffu, mi adwaenwn y mab wrth ei aroglau trwm, a'i gudynau gwlithog, a'i lygaid mol-glafaidd, mai fy Meistr Cwsg ydoedd. 'Ertolwg, Syr,' ebr fi, tan wichian, 'beth a wnaethym i'ch erbyn pan ddygech y wyddan[4] yna i'm nychu?' Ust,' ebr yntau, 'nid oes yma ond fy chwaer Hunllef;[5] myned yr ŷm ni ein dau i ymweled â'n brawd Angeu: eisieu trydydd sy arnom; a rhag i ti wrthwynebu, daethom arnat (fel y bydd yntau) yn ddirybudd. Am hyny, dyfod sy raid i ti, un ai o'th fodd ai o'th anfodd.' Och,' ebr finnau, 'ai rhaid i mi farw?' 'Na raid,' eb yr Hunllef; ni a'ch arbedwn hyn o dro.' 'Ond trwy eich cenad,' ebr fi, 'nid arbedodd eich brawd Angeu neb erioed eto a ddygid i'w ergyd ef; y gwr o aeth i ymaflyd cwymp ag Arglwydd y Bywyd ei hun; ond ychydig a ennillodd yntau ar

  1. Enw cyffredin ar yr Haul gan brydyddion Groeg a Rhufain: yr un ag Apolo.
  2. Plasdy, yn sefyll yng ngeneu neu agorfa glyn coedog, o ddeutu 3 milltir o dref Harlech, ar ffordd Maentwrog. Tua hanner y ffordd rhwng Glyn Cywarch a Harlech, y mae'r Lasynys, treftadaeth a phreswylfod awdwr y Bardd Cwsg.
  3. Cymharer yr ail a dechreu'r bedwaredd o Weledigaethau Cweredo
  4. Gwel y sylw ar Gwyddanes, t. 48, n. 4.
  5. Hunlle, arg. 1703 ac ereill.