Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr orchest hòno.' Cododd Hunllef ar y gair yma yn ddigllon, ac a ymadawodd. Hai,' ebr Cwsg, 'tyred ymaith, ni bydd i ti ddim edifeirwch o'th siwrnai. 'Wel,' ebr fi, 'na ddêl byth nos i Lan-gwsg, ac na chaffo'r Hunllef byth orphwys ond ar flaen mynawyd, oni ddygwch fi yn ol lle y'm cawsoch.' Yna i ffordd yr aeth â mi tros elltydd a thrwy goedydd, tros foroedd a dyffrynoedd, tros gestyll a thyrau, afonydd a chreigiau; a pha le y disgynem ond wrth un o byrth merched Belial, o'r tu cefn i'r Ddinas Ddienydd; lle gwelwn fod y tri Phorth Dienydd yn cyfyngu yn un o'r tu cefn, ac yn agor i'r un lle: lle mwrllwch oerddu gwenwynig, llawn niwl afiach a chymylau cuwchdrwm[1] ofnadwy. 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'pa le yw'r fangre hon?' 'Ystafelloedd Angeu,' ebr Cwsg. Ni ches i ond gofyn, na chlywn i rai yn crio, rhai yn griddfan, rhai yn ochain, rhai yn ymleferydd,[2] rhai yn dal i duchan yn llesg; ereill mewn llafur mawr, a phob arwyddion ymadawiad dyn; ac ambell un ar ei ebwch[3] mawr yn tewi; a chwap[4] ar hyny, clywn droi agoriad mewn clo. Minnau a drois wrth y swn i ysbio am y drws; ac o hir graffu, gwelwn fyrdd fyrddiwn o ddrysau yn edrych ym mhell, ac er hyny yn fy ymyl. 'Yn rhodd, Meistr Cwsg,' ebr fi, 'i ba le mae'r drysau yna yn egor?' Y maent yn agor,' ebr yntau, 'i Dir Anghof, gwlad fawr tan lywodraeth fy mrawd yr Angeu; a'r gaer fawr yma yw terfyn yr anferth Dragwyddoldeb.' Erbyn hyn, gwelwn Angeu bach wrth bob drws, heb un yr un arfau, na'r un enw a'u gilydd; eto, gwyddid arnynt mai swyddogion yr un brenin oeddynt oll; er y byddai aml ymryson rhyngddynt am y cleifion; mynai'r naill gipio'r claf yn anrheg trwy ei ddrws ei hun, a'r llall a'i mynai trwy ei ddrws yntau. Wrth nesäu, canfum yn ysgrifenedig uwch ben pob drws, henw'r Angeu oedd yn ei gadw; ac hefyd wrth bob drws, ryw gant o amryw bethau wedi eu gadael yn llanastr,[5] arwydd fod brys ar y rhai a aethent trwodd.

Uwch ben un drws, gwelwn Newyn; ac eto ar lawr yn ei ymyl byrsau a chodau llawnion, a thrynciau[6] wedi eu hoelio.

  1. Trwm ei guwch; trwm a chuchiog; gygus nen sarig yr olwg arno.
  2. Siarad fel dyn gwallgof neu orphwyllog; bod allan o bwyll; ynfydu, gwallgofi.
  3. Uchenaid, griddfan, wban, gwaedd, drygnad.
  4. Uchenaid, griddfan, wban, gwaedd, drygnad.
  5. Yn annhrefnus, mewn annhrefn; blith draphlith; yn gymmysg.
  6. 'Trynciau'=trunks: cistiau, blychau, coffrau.