Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'Dyma,' ebr ef, 'Borth y Cybyddion.' 'Pwy,' ebr fi, 'pioodd y carpiau yna?' Cybyddion, eb ef, 'gan mwyaf, ond mae yna rai yn perthyn i segurwyr, a hwsmyn tafod,[1] ac i ereill, tlawd ym mhob peth ond yr ysbryd, oedd well ganddynt newynu na gofyn."

Yn y drws nesaf yr oedd Angeu Annwyd; gyfeiryd â hwn clywn lawer hydyd—ydyd—cian[2]; wrth y drws hwn yr oedd llawer o lyfrau, rhai potiau a fflageni, ambell ffon a phastwn, rhai cwmpasau, a chyrt, a chêr llongau. Fe aeth ffordd yma ysgolheigion,' ebr fi. 'Do,' ebr yntau, 'rai unig a dihelp, a phell oddi wrth amgeledd a'u carai, wedi dwyn hyd yn oed y dillad oddi arnynt.'[3] 'Dyna,' ebr ef (am y potiau) 'weddillion y cymdeithion da, a fydd â'u traed yn fferu tan feinciau, tra bo eu penau yn berwi gan ddiod a dwndwr: a'r pethau draw sy'n perthyn i drafaelwyr mynyddoedd eiryog, ac i farsiandwyr y Gogledd-for.'

  1. Hwsmyn tafod'=dynion tafodiog, siaradus, neu chwedlengar; rhai a fyddont byth a hefyd yn siarad am faterion a negesau pobl ereill; ofersiaradwyr, gwagsiaradwyr, baldorddwyr. Presently after these appeared a consort of loud and tedious talkers, that tired and deafened the company with their shrill and restless gaggle.—L'Estrange's Visions of Quevedo, 10th Edit. p. 29.
  2. Dychymmygair, neu air gwneuthur, wedi ei ffurfio er dynwared llais crynedig dyn pan fo ar fferu gan annwyd. Dychymmygair, yn ol Henri Perri, yw, pan fo yr areithiwr yn dychymmyg enw i ryw beth wrth ddynwared sain y peth y bo, drwy gyffelybrwydd, yn ei arwyddocäu. Egluryn Ffracthineb, t. 24, arg. 1807.) Felly Wiliam Lleyn, i fen:—

    Wich wach, yn ol chwech ychain

    .
    A Dafydd ab Gwilym, i'r biogen:—

    Cric crec, ni'm dawr pe crocid.


    A thrachefn, i ddynwared un yn yfed:—

    Cue cue yn yfed sucan.


    Yr un modd, Rhys Cain, i'r gwyddau:—

    Cywion ar dor afon deg,
    Crygion, yn crio wegeg.

    Ar yr un egwyddor y mae Aristophan, y Cymwawdiwr Groeg, yn efelychu crawciad llyffaint â—

    Βρεκεκεκέξ kόαξ kόαξ

    Ac Ennius (yn ol Servius) a ddynwared sain udgorn a'r gair taratantara; a cheir llawer o gyffelyb anghreifftiau yn y rhan fwyaf o ieithoedd, hen a diweddar.
  3. Nay, many times they are stript, ere they are laid, and destroyed for want of clothes to keep them warm.—Estrange's Visions of Quevedo, p. 41.