Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn nesaf oedd ysgerbwd teneu a elwid Angeu Ofn; gellid gweled trwy hwn nas meddai'r un galon; ac wrth ddrws hwn hefyd godau, a chistiau, a chloiau, a chestyll. I hwn yr air llogwyr, a drwg wladwyr, a gorthrymwyr, a rhai o'r mwrdrwyr;[1] ond yr oedd llawer o'r rhai hyny yn galw heibio i'r drws nesaf, lle yr oedd Angeu a elwid Crog, â'i gortyn parod am ei wddf.

Nesaf i hyny oedd Angeu Cariad, ac wrth ei draed fyrdd o bob offer a llyfrau miwsig[2] a cherdd, a llythyrau mwynion, ac ysmotiau a lliwiau i harddu yr wyneb, a mil o ryw siabas[3] deganau i'r pwrpas hwnw; a rhai cleddyfau. 'A'r rhai hyn,' eb efe, y bu'r herwyr[4] yn ymladd am y feinwen, a rhai yn eu lladd eu hunain.' Mi a welwn nad oedd yr Angeu yma ond cibddall.

Y drws nesaf yr oedd yr Angeu gwaethaf ei liw o'r cwbl a'i afu wedi diflanu; fo'i gelwid Angeu Cenfigen. 'Hwn,' ebr Cwsg, a fydd yn cyrchu colledwyr, athrodwyr, ac ambell farchoges a fydd yn ymwenwyno wrth y gyfraith a barodd i wraig ymddarostwng i'w gwr.' 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'beth yw marchoges?' 'Marchoges,' ebr ef, 'y gelwir yma y ferch a fyn farchogaeth ei gwr, ei chymmydogaeth, a'i gwlad, os geill; ac o hir farchogaeth, hi ferchyg ddiawl o'r diwedd, o'r drws yna hyd yn annwn.'

Yn nesaf yr oedd drws Angeu Uchelgais, i'r sawl sy'n ffroenio yn uchel, ac yn tori eu gyddfau eisieu edrych tan eu traed; wrth hwn yr oedd coronau, teyrnwiail, banerau, a phob papyrau am swyddau, pob arfau bonedd a rhyfel. Ond cyn i mi edrych ychwaneg o'r aneirif ddrysau hyny, clywn lais yn peri i minnau wrth fy henw ymddattod. Ar y gair mi'm clywn yn dechreu toddi, fel caseg eira yng ngwres yr haul; yna rhoes fy Meistr i mi ryw ddiod gwsg, fel yr hunais;

  1. 'Mwrdrwyr'=murderers: llofruddion, murnwyr.
  2. Music—cerddoriaeth, peroriaeth, alaw.

    Mwyna' cerdd ym min gwerddon
    Ym mysg llu'n gwau minsig llon.
    ::—D. ab Gwilym.

  3. 'Sciabas' (arg. 1703)=siabas. Siabas deganau=teganau diwerth, gwael, oferwag, neu ddiddefnydd; pethau bychain diles; ffrilion; sothach.

    Cnau, ac eirin, a phob siabas,
    Afalau, rhwnyn, a rhai crabas.
    Huw Morus.

  4. Gwel t. 26.