Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond erbyn i mi ddeffro, fo a'm dygasai i ryw ffordd allan o bellder y tu arall i'r gaer; mi'm gwelwm mewn dyffryn pygddu anfeidrol o gwmpas, ac i'm tyb i, nid oedd dyben arno: ac ym mhen ennyd, wrth ambell oleuni glas, fel canwyll ar ddiffodd, mi welwn aneirif, O! aneirif o gysgodion dynion, rhai ar draed, a rhai ar feirch, yn gwau trwy eu gilydd fel y gwynt, yn ddystaw ac yn ddifrifol aruthr: a gwlad ddiffrwyth, lom, adwythig, heb na gwellt na gwair, na choed, nac anifail, oddi eithr gwylltfilod marwol a phryfed gwenwynig o bob math; seirff, nadroedd, llau, llyffaint, llyngyr, locustiaid, pryf y bendro, a'r cyffelyb oll sy'n byw ar lygredigaeth dyn. Trwy fyrddiwn o gysgodion ac ymlusgiaid, a beddi, a monwentau, a beddrodau, ni aethom ym mlaen i weled y wlad yn ddirwystr, tan na welwn[1] i rai yn troi ac yn edrych arnaf; a chwipyn, er maint oedd y distawrwydd o'r blaen, dyma si o'r naill i'r llall, fod yno ddyn bydol.[2] Dyn bydol!' ebr un; 'Dyn bydol!' eb y llall; tan ymdyru ataf, fel y lindys, o bob cwr. 'Pa fodd y daethoch, Syre?' ebr rhyw furgyn o Angeu bach oedd yno. 'Yn wir, Syr,' ebr fi, 'nis gwn i mwy na chwithau.' Beth y gelwir chwi,' ebr yntau? 'Gelwch fi yma fel y mynoch yn eich gwlad eich hun, ond fe'm gelwid i gartref, Bardd Cwsg.'

Ar y gair, gwelwn gnap o henddyn gwargam, a'i ddeupen fel miaren gen lawr, yn ymsythu, ac yn edrych arnaf yn waeth na'r dieflyn coch; a chyn dywedyd gair, dyma fe'n taflu penglog fawr heibio i'm pen i. Diolch i'r gareg fedd a'm cysgododd. 'Llonydd, Syr, ertolwg,' ebr fi, 'i ddyn dyeithr na fu yma erioed o'r blaen, ac ni ddaw byth, pe cawn unwaith ben y ffordd adref.' Mi wnaf i chwi gofio eich bod yma,' eb ef, ac eilwaith ag asgwrn morddwyd, gosododd arnaf yn gythreulig, a minnau yn osgoi fy ngoreu. 'Beth,' ebr fi, dyma wlad anfoesol iawn i ddyeithriaid; oes yma un ustus o heddwch?' 'Heddwch,' ebr yntau, 'pa heddwch a haeddit ti, na adewit lonydd i rai yn eu beddi?' 'Atolwg, Syr,' ebr fi, 'a gawn i wybod eich henw chwi; o blegid nis gwn i flino ar neb o'r wlad yma erioed.' 'Syre,' ebr yntau, gwybyddwch mai fi, ac nid chwi, yw'r Bardd Cwsg; ac a ges lonydd yma er's naw cant o flynyddoedd gan bawb ond chwychwi;' ac a aeth i'm cynnyg i drachefn.

  1. Tan na welwn=hyd oni welwn; nes y gwelwn.
  2. Sef, dyn o'r byd, dyn daiarol.