Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddyfethodd Faelgwn Gwynedd, eich lladd chwithau ar y feisdon,[1] a'ch rhanu rhwng y brain a'r pysgod.' 'Taw, ffwl,' ebr ef, 'brutio yr oeddwn i am fy nwy alwedigaeth, gwr o gyfraith a phrydydd: a ph'run, meddi di yr awran, debycaf ai cyfreithiwr i gigfran reibus, ai prydydd i forfil? Pa sawl un a ddigiga un cyfreithiwr i godi ei grombil oi hun? ac O! mor ddifater y gollwng e'r gwaed, a gadael dyn yn lledfarw! A'r prydydd yntau, pa le mae'r pysgodyn sy'r un lwnc ag ef! ac mae hi yn for arno bob amser, eto ni thyr y môr heli mo'i syched ef. Ac erbyn y bai ddyn yn brydydd ac yn gyfreithiwr, pwy a ŵyr pa'r un ai cig ai pysgod fyddai: ac yn sicr, os byddai yn un o wyr llys, fel y bûm i,[2] ac yn gorfod iddo newid ei flas at bob geneu. Ond dywed i mi,' ebr ef, 'a oes yr awran nemor o'r rhai hyny ar y ddaiar?' 'Oes,' ebr finnau, 'ddigon; os medr un glytio rhyw fath ar ddyri,[3] dyna fe'n gadeirfardd. Ond o'r lleill,' ebr fi, mae'r fath bla yn gyfarthwyr, yn fân dwrneiod,[4] a chlarcod,[5] nad oedd locustiaid yr Aipht ddim pwys ar y wlad wrthi rhai hyn. Nid oedd yn eich amser chwi, Syr, ond bargeinion bol clawdd, a lled llaw o ysgrifen am dyddyn canpunt, a chodi carnedd, neu goeten Arthur, yn goffadwriaeth o'r pryniant a'r terfynau. Nid oes mo'r nerth i hyny yr awran, ond mae chwaneg o ddichell ddyfeisddrwg, a chyfied a chromlech o femrwn ysgrifenedig i sicrhau'r fargen; ac er hyny, odid na fydd, neu fe fynir, rhyw wendid ynddi.' Wel, wel,' ebr Taliesin, 'ni thalwn i yno ddraen; ni waeth genyf lle yr wyf: ni cheir byth wir lle bo llawer o feirdd, na thegwch lle bo llawer o gyfreithwyr, nes y caffer iechyd lle bo llawer o physigwyr.'

Yn hyn, dyma ryw swbach[6] henllwyd bach, a glywsai fod yno ddyn bydol, yn syrthio wrth fy nhraed, ac yn wylo yn hidl. Ocho druan!' ebr fi, 'beth wyt ti?' 'Un sy'n cael gormod o gam yn y byd beunydd,' ebr yntau; 'fe ga

  1. Glan y môr, traeth, traethell, tywyn.
  2. Buasai Taliesin yn un o wyr llys Urien Rheged, Gwyddno Garanhiir, a'r Brenin Arthur
  3. Neu, dyrif cerdd tôn a goslef; canu ar fesur rhydd; cân rydd. Mesur cyn cof yw dyri-Barddas.
  4. 'Twrneiod'=attorneys: cyfreithwyr, dirprwywyr cyfreithiol.
  5. 'Clarcod'=clerks: ysgrifenyddion, ysgrifweision.
  6. 'Swbach'=peth wedi ymwasgu neu ymgrynoi yng nghyd; a fo yn swp neu grynswth; sypyn, sybwrn; sypyn o ddyn; cleb, cleirchyn, sybidyn, cor, corach.