Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eich enaid chwi fynu i mi uniondeb.' 'Beth,' ebr fi, 'y gelwir di? Fe a'm gelwir i Rhywun,' ebr ef; 'ac nid oes na llateiaeth,[1] nac athrod, na chelwyddau, na chwedlau, i yru rhai benben, nad arnaf fi y bwrir y rhan fwyaf o honynt. "Yn wir," medd un, "mae hi yn ferch odiaeth, ac hi fu yn eich canmol chwi wrth Rywun, er bod Rhywun mawr yn ei cheisio hi." "Mi a glywais Rywun," medd y llall, "yn cyfrif naw cant o bunnau o ddyled ar yr ystâd hòno." "Gwelais Rywun ddoe," medd y cardotyn, "â chadach brith fel moriwr, a ddaethai â llong fawr o yd i'r borth[2] nesaf;" ac felly pob cerpyn a'm llurgynia i i'w ddrwg ei hun. Rhai a'm geilw i yn Ffrind.[3] "Mi ges wybod gan Ffrind," medd un, "nad oes ym mryd hwn a hwn adael ffyrling i'w wraig, ac nad oes dim diddigrwydd rhyngthynt." Rhai ereill a'm diystyrant i ym mhellach, gan fy ngalw yn Frân: "Fe ddywed Brân i mi fod yno gastiau drwg," meddant. Ië, rhai a'm geilw ar henw parchedicach yn Henwr; eto nid eiddof fi hanner y coelion, a'r brutiau,[4] a'r cynghorion a roir ar yr Henwr; ni pherais i erioed ddilyn yr hen-ffordd, os byddai'r newydd yn well; ac ni feddyliais i erioed warafun cyrchu i'r Eglwys wrth beri—"Na fynych dramwy lle bo mwyaf dy groeso;" na chant o'r fath. Ond Rhywun yw fy enw cyffredinaf i,' ebr ef; 'hwnw a gewch chwi glywed fynychaf ym mhob mawrddrwg; o blegid gofynwch i un, lle dywedpwyd y mawrgelwydd gwaradwyddus, pwy a'i dywed; "Yn wir," medd yntau, "nis gwn i pwy, ond fo'i dywed Rhywun yn y cwmni;" holi pawb o'r cwmpeini am y chwedl, fe'i clybu pawb gan Rywun, ond nis gŵyr neb gan bwy. Onid yw hyn yn gam cywilyddus?' ebr ef. Ertolwg, a hysbyswch chwi i bawb a glywoch yn fy henwi, na ddywedais i ddim o'r pethau hyn? Ni ddyfeisiais ac ni adroddais i gelwydd erioed i waradwyddo neb, nac un chwedl i yru ceraint bendramwnwgl â'u gilydd; nid wyf yn dyfod ar eu cyfyl;[5] nis gwn i ddim o'u hystorïau, na'u masnach, na'u cyfrinach felltigedig hwy; na wiw iddynt fwrw mo'u drygau arnaf fi, ond ar eu hymenyddiau llygredig eu hunain.'

Ar hyn, dyma Angeu bach, un o ysgrifenyddion y brenin, yn gofyn i mi fy henw, ac yn peri i Meistr Cwsg fy nwyn i yn

  1. Cenadwri rhwng cariadau; negesiaeth yn achos cariad.
  2. Porthladd, porthfa.
  3. Friend: cyfaill.
  4. Ystorïau, hanesion; daroganan
  5. 'Ar eu cyfyl'= yn agos atynt.