Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ebrwydd ger bron y brenin. Gorfod myned o'm llwyr anfodd, gan y nerth a'm cipiodd fel corwynt, rhwng uchel ac isel, filoedd o filltiroedd yn ei hol ar y llaw aswy, oni ddaethom eilwaith i olwg y wal derfyn; ac mewn congl gaeth, ni welem: glogwyn o lys candryll penegored dirfawr, yn cyrhaedd hyd at y wal lle yr oodd y drysau aneirif, a'r rhai hyny oll yn arwain i'r anferth lys arswydus hwn: â phenglogau dynion y gwnelsid y muriau,[1] a'r rhai hyny yn ysgyrnygu dannedd yn erchyll; du oedd y clai, wedi ei gyweirio trwy ddagrau a chwys; a'r calch oddi allan yn frith o phlêm[2] a chrawn; ac oddi fewn o waed dugoch. Ar ben bob tŵr, gwelid Angeu bach, â chanddo galon dwymn ar flaen ei saeth. O amgylch y llys yr oedd rhai coed ambell ywen wenwynig, a cypreswydden farwol; ac yn y rhai hyny yr oedd yn nythu ddylluanod, cigfrain, ac adar y cyrff, a'r cyfryw, yn crëu[3] am gig fyth, er nad oedd y fangre oll ond un gigfa fawr ddrewedig. O esgyrn morddwydydd dynion y gwnelsid holl bilerau'r neuadd; a philerau'r parlwr o esgyrn y coesau; a'r lloriau yn un walfa o bob cigyddiaeth.

Ond ni ches i fawr aros, nad dyma yng ngolwg allor fawr arswydus, lle gwelem y brenin dychrynadwy yn traflyncu cig a gwaed dynion, a mil o fân angeuod, o bob twll, yn ei borthi fyth â chig ir twymn. 'Dyma,' eb yr Angeu a'm dygasai i yno, 'walch a ges i yng nghanol Tir Anghof, a ddaeth mor ysgafn-droed, na phrofodd eich mawrhydi damaid o hono erioed.' Pa fodd y gall hyny fod?' ebr y brenin, ac a ledodd ei hopran[4] cyfled a daiargryn i'm llyncu. Ar hyn, mi a drois tan grynu at Gwsg. 'Myfi,' ebr Cwsg, 'a'i dygais ef yma.' 'Wel,' ebr y brenin cul ofnadwy, er mwyn fy mrawd Cwsg, chwi ellwch fyned i droi eich traed am y tro yma; ond gwyliwch fi'r tro nesaf.' Wedi iddo fod ennyd yn bwrw celanedd i'w geubal[5] ddiwala, parodd roi dyfyn[6] i'w ddeiliaid, ac a symmudodd o'r allor i orseddfainc echryslawn dra uchel, i fwrw'r[7] carcharorion newydd ddyfod. Mewn mynyd, dyma'r meirw, fwy

  1. Cymharer hanes y llys hwn â'r darluniad o Garchar Oeth ac Anoeth, yn Ysgriflyfrau Iolo, t. 185-7.
  2. Phlegm: llysnafedd, cornboer.
  3. 'Crëu'=crawcio; crefu; erfyn.
  4. Yma, safn, ceg.
  5. Yn briodol bad, cwch, neu ysgraff; ond yma, ceudod, crul, bol.
  6. 'Rhoi dyfyn'=gwysio, rhoi gwys, rhybuddio, galw ger bron.
  7. Barnu, dyfarnu, dedfrydu.