Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na rhif o fynteioedd, yn gwneyd eu moes i'r brenin, ac yn cymmeryd eu lle mewn trefn odiaeth. A'r brenin Angeu yn ei freninwisg o ysgarlad gloewgoch, ag hyd-ddi luniau gwragedd a phlant yn wylo, a gwyr yn ocheneidio; ac am ei ben gap dugoch trichonglog (a yrasai ei gâr Luciffer yn anrheg iddo); ar ei gonglau ysgrifenasid, 'Galar, a griddfan, a gwae.' Uwch ei ben yr oedd myrdd o luniau rhyfeloedd ar fôr a thir; trefi yn llosgi, y ddaiar yn ymagor, a'r dwr diluw; a than ei draed nid oedd ond coronan a theyrnwiail yr holl freninoedd a orchfygasai fe erioed. Ar ei law ddeheu yr oedd Tynged yn eistedd, ac â golwg ddu ddel[1] yn darllen anferth lyfr oedd o'i flaen: ac ar y llaw aswy yr oedd henddyn a elwid Amser, yn dylifo[2] aneirifo edafedd aur, ac edafedd arian, a chopr, a haiarn lawer iawn, ac ambell edyf yn prifio yn well at ei diwedd; a myrddiwn yn prifio yn waeth. Hyd yr edafedd yr oedd oriau, diwrnodau, a blynyddoedd; a Thynged wrth ei lyfr yn tori yr edafedd einioes, ac yn egor drysau'r wal dorfyn rhwng y ddau fyd.

Ni chawswn i fawr edrych na chlywn alw at y bar bedwar o ffidleriaid oedd newydd farw. Pa fodd,' ebr brenin y dychryn, 'a däed genych lawenydd, na ddaliasech chwi o'r tu draw i'r agendor? canys ni fu o'r tu yma i'r cyfwng lawenydd erioed.' 'Ni wnaethom ni,' ebr un cerddor, ddrwg i neb erioed, ond eu gwneyd yn llawen, a chymmeryd yn ddystaw a gaem am ein poen." 'A gadwasoch chwi neb,' ebr Angeu, 'i golli eu hamser oddi wrth eu gorchwyl, neu o fyned i'r Eglwys? ha!' 'Na ddo,' ebr un arall, oddi eithr bod ambell Sul wedi gwasanaeth yn y tafarndy tan dranoeth, neu amser haf mewn twmpath chwareu; ac yn wir, yr oeddym ni yn gariadusach ac yn lweusach[3] am gynnulleidfa na'r person.' 'Ffwrdd, ffwrdd a'r rhai hyn i Wlad yr Anobaith,' ebr y brenin ofnadwy; 'rhwymwch y pedwar gefn-gefn, a theflwch hwy at eu cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i rygnu[4] fyth heb na chlod na chlera.'

  1. 'Del'=caled, anhyblyg, anhydyn: hefyd, pert, gwych, tlws, dillyn.

    Ni bu haid, ddiawliaid! ddelach eu gwahodd,
    Ni bu ieir un fodd, na brain feddwach.
    ——L. G. Cothi, V. vi. 51.
    Gwr du i daflu gair del.—T. Prys.

  2. Ystofi; gosod edafedd yn y gwydd
  3. Lwcusach' (o'r Seis, lucky)=ffodusach, mwy ffodiog
  4. Rhwbio neu rwtio (ar y tannau)