Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ollwng neb yn ol trwy derfyn-glawdd tragwyddoldeb y wal ddiadlam, na chwithau ou llochi[1] hwy yma; am hyny, gyrwch hwynt ym mlaen i'w distryw, heb waethaf i'r Fall fawr; fe fedrodd drefnu llawer dalfa o fil neu ddeng-mil o eneidiau, bob un i'w le mewn mynyd; a pha'r galedi fydd arno yr awran gyda saith, er eu perycled? Pa ddelw bynag, pe troent y llywodraeth uffernol tros ei cholyn, gyr di hwynt yno yn sydyn, rhag ofn i mi gael gorchymmyn i'th daro di yn ddim cyn dy amser. Am ei fygythion ef, nid ynt ond celwyddog: canys er bod dy ddyben di a'r henddyn draw (gan edrych ar Amser) yn nesau o fewn ychydig ddalenau, yn fy llyfr disomiant i; eto nid rhaid i ti unon[2] soddi at Luciffer; er däed fyddai gan bawb yno dy gael di, eto byth nis cânt; o blegid mae'r creigiau dur a diemwnt[3] tragwyddol sy'n toi Annwn, yn rhy gedyrn o beth i'w malurio.' Ar hyny galwodd Angeu, yn gyffrous, am un i ysgrifenu yr ateb fel hyn:—

'Angeu, Frenin y Dychryniadau, Cwncwerwr y Cwncwerwyr, At ein parchedicaf Gâr a'n Cymmydog Luciffer, Brenin Hirnos, Penllywodraethwr y Llynclyn Diffwys: anerch.'

Ar ddwfn ystyried eich breninol ddymuniant hwn, gwelsom yn fuddiolach, nid yn unig i'n llywodraeth ni, eithr hefyd i'ch teyrnas helaeth chwithau, yru y carcharorion hyn bellaf bai bosibl oddi wrth ddrysau'r wal ddiadlam, rhag i'w sawyr drewedig ddychrynu yr holl Ddinas Ddienydd, fel na ddel dyn byth i dragwyddoldeb o'r tu yma i'r agendor; ac felly ni chawn i fyth oeri fy ngholyn, na chwithau ddim cwsmeriaeth rhwng daiar ac uffern. Eithr gadawaf i chwi eu barnu a'u bwrw i'r celloedd a weloch chwi gymhwysaf a sicraf iddynt.

'O'm Breninllys Isaf yn y Gollborth[4] Fawr ar Ddistryw: Er blwyddyn adnewyddiad fy nheyrnas, 1670.'

Erbyn clywed hyn oll, yr oeddwn innau yn ysu am gael gwybod pa ryw bobl allai'r seithnyn hyny fod, a'r diawl-

  1. Llochesu, achlesu, noddi
  2. 'Unon' (un ofn)=ofni; tybio, meddylied.
    *Onid rhaid unon na ddichon dim tramgwydd ddamwain i'r Eglwys, pa raid, ynte, wrth enwau diles yr esgobion?'—Morus Cyffin.
  3. Adamant; y maen caletaf
  4. Porth y colledigion; y porth yr ä'r colledigion drwyddo