Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

7. Mae clod i ddawns a pheraidd gân,
Am wario aflan ddrygau:
Ond mawr na fedrai sioncrwydd Ffrainc
Rygyngu caine rhag Angeu.

8. Chwychwi drafaelwyr môr a thud,[1]
A'r byd i gyd a'i gyrau,
Yn rhodd, a welsoch mewn un lle
Ryw gongl gre' rhag Angeu?

9. Chwi 'sgolheigion, a gwŷr llys,
Sy'n deall megys duwiau!
A rowch chwi 'm mysg eich dysg a'ch dawn
Ryw gynghor iawn rhag Angeu?

10. Y byd, y cnawd, a'r cythraul yw
Prif elynion pob dyn byw;
Ac eto gwiliwch Angeu gawr,
O'r gollborth fawr ar Ddistryw.

11. Son am Angeu nid oes bris,
A'i gollborth, a'i ddiang-borth lys;
Ond beth pan elech di dy hun,
Oes fater p'r un o'r ddeu-lys?

12. Nid oes yma ronyn pris,
Fyn'd tros y strip[2] yn uwch neu'n is;
Nid yw'r bythol bethau mawr,
I'th dyb di'n awr ond breubys.[3]

13. Ond pan fo'r Angeu 'm mron dy ddal,
Wrth odre'r wal ddiadlam,
Gwybydd y bydd iti bris,
Os cemi ris yn lledgam.

  1. Tir
  2. Llain; dernyn hirgul neu hirfain. Strip' yw argraffiad yr awdwr; a thebygol mai strip a fwriedid; ac felly y darllen argraffiadau Durston, un 1768, a 1774. Ystryd' a geir yn yr argraffiadau mwy diweddar.
  3. Briwsion, tameidiau, catiau, teilchion, cyrbibion