14. Pan fo d'enaid am y clo,
A myn'd'[1] i'r fawr dragwyddol fro,
Oes bris wrth agor cil y ddor,
Pa du i'r agendor fyddo?
15. Credu ac edifarhau,
A buchedd sanctaidd, a gwelläu,[2]
Y rhai'n yw'r unig help i ddyn
Rhag ing a cholyn Angeu.
16. Gwael y gweli'r rhai'n yn awr;
Ond wrth fudo i'r byd mawr,
Tydi a'u prisi'n fwy na hyn,
Ar fin dy derfyn dirfawr.
17. Pan fo'r byd i gyd ar goll,
A'i fwynder oll ar d'ollwng,
Anfeidrol fydd eu pris a'u gwerth,
Wrth gae yr anferth gyfwng.