Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

III.

GWELEDIGAETH UFFERN.[1]

AR foreu teg o Ebrill rywiog, a'r ddaiar yn las feichiog, a Phrydain baradwysaidd yn gwisgo lifrai gwychion, arwyddion heulwen haf, rhodio yr oeddwn yng nglan Hafren, yng nghanol melus bynciau cerddorion bach y goedwig, oedd yn ymryson tori pob mesurau mawl hyfrydlais i'r Creawdwr; a minnau yn llawer rhwymedicach, weithiau mi gydbynciwn â'r côr asgellog mwynion, ac weithiau darllenwn ran o lyfr Ymarfer Duwioldeb[2]. Er hyny, yn fy myw, nid ai o'm cof fy ngweledigaethau o'r blaen, na redent fyth a hefyd i'm rhwystro ar draws pob meddyliau ereill. A daliasant i'm blino, nes imi, wrth fanwl ymresymu, ystyried nad oes un weledigaeth ond oddi uchod, er rhybudd i ymgroesi; ac wrth hyny fod arnaf ddylêd[3] i'w hysgrifenu hwy i lawr, er rhybuddi ereill hefyd. Ac ar ganol hyny o waith, a mi yn bendrist, yn ceisio casglu rhai o'r cofion ofnadwy, daeth arnaf hepian uwch ben fy mhapyr, a hyny a roes le i'm Meistr Cwsg lithro ar fy ngwarthaf. Braidd y cloisai Cwsg fy synwyrau, nad dyma yn cyfeirio ataf ryw ddrychiolaeth ogoneddus, ar wedd gwr ieuanc tal a glandeg iawn, a'i wisg yn saith wynach na'r eira, a'i wyneb yn tywyllu yr haul o ddysgleirdeb, a'i felyngrych aur-gudynau yn ymranu yn ddwybleth loewdeg oddi arnodd ar lun coron. "Tyred gyda mi, ddyn marwol!' ebr ef, pan ddaeth hyd ataf. 'Pwy wyt ti, fy Arglwydd?' ebr finnau. 'Myfi,' ebr ef, 'yw Angel teyrnasoedd y Gogledd, gwarcheidwad Prydain a'i brenines. Myfi yw un o'r tywysogion sy tan orseddfainc yr Oen, yn derbyn gorchymmynion ym mhlaid yr Efengyl, i'w chadw rhag ei holl elynion sy'n Uffern, ac yn Rhufain, yn Ffrainc, ac yng Nghaer Cwstenyn, yn Affrica, a'r India, a pha le bynag

  1. Cymharer y Weledigaeth hon â chweched Weledigaeth Crevedo.
  2. Cyfieithad Rowland Fychan o'r Practice of Piety, gwaith y Dr. Lewis Bayley, Esgob Bangor. Ymddangosodd yn Gymraeg y waith gyntaf yn 1630, ac argraffwyd ef amryw weithiau wedi hyny. Cyfieithwyd y gwaith hefyd i'r Ffrancaeg; a bu agos i gant o argraffiadau o hono yn yr iaith Seisoneg.
  3. Dylêd'—y dull Gwyndodig o seinio dyled.