Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arall y maent yn dyfeisio dichellion i'w difa. Myfi yw yr Angel a'th waredodd tu isaf i Gastell Belial, ac a ddangosais i ti oferedd a gwallgof yr holl fyd, y Ddinas Ddienydd, a godidogrwydd Dinas Emmanuel; a daethym eto trwy ei orchymmyn Ef, i ddangos i ti bethau mwy, am dy fod yn ceisio gwneyd deunydd o'r hyn a welaist eisys.' 'Pa fodd, fy Arglwydd,' ebr fi, 'y mae eich anrhydedd gogoneddus, sy'n goruwchwylio teyrnasoedd a breninoedd, yn ymostwng at gymdeithas burgyn o'm bath i?' 'O!' ebr yntau, 'mwy genym ni rinwedd cardotyn na mawredd brenin. Beth os wyf fwy na holl freninoedd y ddaiar, ac uwch na llawer o'r aneirif benaethiaid nefol? Eto, gan deilyngu o'n hanfeidrol Feistr ni ostyngiad mor annhraethol arno ei Hun, a gwisgo un o'ch cyrff chwi, a byw yn eich mysg, a marw i'ch achub, pa fodd y meiddiwn i amgen na thybio yn rhydda fy swydd dy wasanaethu di, a'r gwaelaf o'r dynion, sy cyfuwch yn ffafr fy Meistr? Tyred allan, ysbryd, a dibridda!' ebr ef, â'i olwg ar i fyny: a chyda'r gair, mi'm clywn yn ymryddhau oddi wrth bob rhan o'r corff, ac yntau yn fy nghipio i fyny i entrych nefoedd, trwy fro'r mellt a'r taranau, a holl arfdai gwynias yr wybr, aneirifo raddau yn uwch nag y buaswn gydag efo'r blaen, lle prin y gwelwn y ddaiar cyfled a chadlas.[1] Wedi gadael i mi orphwys ychydig, fe'm cododd eilchwyl fyrddiwn o filltiroedd, oni welwn yr haul ym mhell oddi tanom; a thrwy Gaer Gwydion,[2] ac heibio i'r Twr Tewdws,[3] a llawer o ser tramawr ereill, gael golwg o hirbell ar fydoedd ereill. Ac o hir ymdaith, dyma ni ar derfynau yr anferth Dragwyddoldeb; yng ngolwg dau lys y gorchestol frenin Angau, un o'r tu deheu, a'r llall o'r tu aswy, ym mhell bell oddi wrth eu gilydd, gan fod rhyw ddirfawr wag rhyngddynt. Gofynais a gawn fyned

  1. Llanerch, talwrn, buarth, gardd.
  2. Caer Gwydion'=cylch neu lwybr dysgleirwyn yn y ffurfafen, yn cael ei achosi, fel yr ydys yn barnu, gan luaws aneirif o ser sefydlog, y rhai nis gellir eu canfod a'u gwahaniaethu â thremwydrau cyffredin. Gelwir ef hefyd y Llwybr Llaethog, y Ffordd Laeth, Galaeth, Eirianrod, Crygeidwen, Heol y Gwynt, a Llwybr y Mab Afradlawn. Cafodd yr enw Caer Gwydion, oddi wrth Gwydion Ab Don, un o seryddion y drydedd ganrif: a dychymmyga'r prydyddion iddo deithio drwy'r nefoedd ar ol merch a ddiangasai gyda Gronwy Befr; ac iddo adael llwybr ar ei ol yn y ffurfafen, yr hwn a alwyd Caer Gwydion' o'r pryd hwnw allan.
  3. Y Twr Tewdws'-Y Saith Seren Siriol: saith seren yng ngwddf cydser y Tarw; y rhai a elwir hefyd Pleiades (Iob, ix. 9; xxxviii. 31).