Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i weled y Breninllys deheu; o blegid ni welswn mo hwnw yn debyg i'r llall a welswn i o'r blaen. Cei, ond odid,' ebr yntau, weled ychwaneg o'r rhagor sy rhwng y naill lys a'r llall, rywbryd. Eithr rhaid i ni yr awran hwylio ffordd arall.' Ar hyn troisom oddi wrth y Byd bach, a thros y cyfwng ymollyngasom i'r Wlad Dragwyddol, rhwng y ddau lys, i'r gwagle hyll; anferth wlad, ddofn iawn a thywyll, didrefn a didrigolion, weithiau yn oer, ac weithiau yn boeth, weithiau yn ddystaw, weithiau yn synio gan y rhaiadrydd[1] dyfroedd yn disgyn ar y tanau ac yn eu diffodd; ac yn y man gwelid damchwa[2] o dân yn tori allan, ac a losgai'r dwr yn sych. Felly nid oedd yno ddim cwrs, na dim cyfa, dim byw na dim lluniaidd; ond yr anghyssondeb syfrdan, a syndod tywyll a'm dallasai i fyth, oni buasai i'm Cyfaill noethi eilwaith ei nefol ddysgleir-wisg. Wrth ei oleu ef gwelwn Dir Anghof, a minion Gwylltoedd Distryw, ym mlaen o'r tu aswy; ac o'r tu deheu, megys godreon isaf caerau'r Gogoniant. Wel, dyma yr Agendor fawr sydd rhwng Abraham a Difes,'[3] ebr ef, 'a elwir y Gymmysgfa Ddidrefn: hon yw gwlad y defnyddiau, a greodd y Creawdwr gyntaf: a dyma lle mae hadau pob peth byw; ac o'r rhai hyn y gwnaeth y Gair Hollalluog eich Byd chwi, ac oll sy ynddo, dwr, tân, awyr, tir, anifeiliaid, pysg, a phryfed, adar asgellog, a chyrff dynion: ond mae eich eneidiau o ddechreuad ac achau uwch ac ardderchocach.' Trwy'r gymmysgfa fawr arswydus, ni a dorasom, o'r diwedd, allan i'r llaw chwith; a chyn trafaelio neppell yno, lle yr oedd pob peth yn dechreu myned hyllach hyllach, clywn y galon yng nghorn fy ngwddf, a'm gwallt yn sefyll fel gwrych draenog, cyn gweled; ond pan welais, och ormod golwg i dafod ddadgan, nac i ysbryd dyn marwol ei edrych! Mi a lewygais. O aruthrol anferthol gyfwng tra erchyll, yn ymagor i fyd arall! Och â'r clecian fyth yr oedd y fflamau echryslawn wrth ymluchio tros ymylau'r geulan felltigedig, a'r dreigiau mellt ysgethrin[4] yn rhwygo'r mwg dudew yr oedd

  1. Rhaiadydd,' arg. 1703; ac yr un modd yn y tudalen nesaf.
  2. 'Damchwa' (dam-chwa)=chwa neu ager amgylchynol. Ond tebygol nad yw y gair yn y lle hwn, ac mewn rhanau ereill o'r Weledigaeth, ond cyfnewidiad o tanchwa (Seis. fire-damp), sef yr agerdd neu fwg dinystriol a dyr allan mewn mwngloddiau a lleoedd cyffelyb. Gwel t. 87, 88.
  3. Neu, Dives y gair Lladin am oludog neu gyfoethog. Gwel Luc, xvi. 19, 26.
  4. 'Ysgethrin'=gyrol, hyrddol, lluchiol, diriol; yn gyru, yn hyrddio: ysgethrog; erchyll, ofnadwy, cethin, irad. Iterative, impulsive—Dr. Puw. Tywydd ysgethrog y gelwir yn y Deheubarth, dywydd garw, ystormus, pan y bo'r gwynt a'r gwlaw megys yn ysgethru, yn ysgubo, yn lluchio, neu yn gyru pob peth o'u blaen.