Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y safn anferth yn ei fwrw i fyny! Pan ddadebrodd fy anwyl gydymaith fi, rhoes i mi ryw ddwr ysbrydol i'w yfed; o odidoced oedd ei flas a'i liw! Pan yfais y dwr nefol, clywn nerth rhyfeddol yn dyfod imi, a synwyr, a chalon, a ffydd, ac amryw rinweddau nefol ereill. Ac erbyn hyn, neseais gydag e'n ddiarswyd, at fin y dibyn, yn y llen, a'r fflamau yn ymranu o'n deutu, ac yn ein gochel, heb feiddio cyffwrdd â thrigolion Gwlad Uchelder. Yna, o ben y geulan anaele,[1] ymollyngasom, fel y gwelit ti ddwy seren yn syrthio o entrych nef, i lawr â ni fil filiwn o filltiroedd, tros lawer o greigiau brwmstan, a llawer anfad raiadr gwrthun, a chlogwyn eirias, a phob peth â gwg crogedig ar i waered fyth; eto yr oeddynt oll yn ein gochel ni; oddi eithr unwaith yr estynais fy nhrwyn allan o'r llen gel, tarawodd y fath archfa fi o fygfeydd a thagfeydd ag a'm gorphenasai, oni buasai iddo yn ddisymmwth fy achub â'r dwr bywiol. Erbyn i mi ddadebru, gwelwn ein bod wedi dyfod i ryw sefyllfod; canys yn yr holl geg anferthol hòno, nid oedd bosibl ddim cynt gael attreg, gan serthed a llithriced ydoedd. Yno gadawodd fy Nhywysog i mi orphwys peth drachefn; ac yn hyny o seibiant dygwyddodd i'r taranau a'r corwyntoedd croch ddystewi gronyn; ac heb waethaf i swn y rhaiadrydd geirwon, mi a glywn o hirbell swn arall mwy na'r cwbl, o grochleisiau echrys, bonllefain, gwaeddi, ac ochain cryf, a thyngu, a rhegu, a chablu, oni roiswn i newid ar fy nghlustiau rhag gwrando. A chyn i ni ymsymmud fodfedd, clywem oddi fyny'r fath drwp-hwl-rwp-rap, dy dump, dy damp[2] ac oni buasai i ni osgoi yn sydyn, syrthiasai arnom gantoedd o ddynion anhapus, oedd yn dyfod ar eu penau, mewn gormod brys, i ddrwg fargen, a llu o ellyllon yn eu gyru. 'O, Syr,' ebr un diawl, cymmerwch yn araf, rhag dyrysu eich cydyn crych.' 'Madam, a fynwch chwi glustog esmwyth? mae arnaf ofn na fydd arnoch ddim trefn erbyn yr eloch i'ch lletty,' meddai ef wrth y llall.

Gwrthnysig aruthr oedd y dyeithriaid i fyned ym mlaen, gan

  1. Erchyll, ofnadwy, irad: hefyd anfeddyginiaethol, anfeddygadwy, anwelladwy; megys,
    Anacle fydd fy nolur.—Ed. Richard.
  2. Dychymmygeiriau: gwel t. 53, n. 2.