Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w harteithio;" ac fel y gwaeddai'r diawliaid gan eu poen eu hunain, gwnaent i'r damniaid eu hateb hyd adref. Deliais fanylach sylw ar y cwr oedd nesaf ataf: gwelwn y diawliaid, â phicffyrch, yn eu taflu i ddisgyn ar eu penau ar heislanod[1] gwenwynig o bicellau geirwon gwrthfachog, i wingo gerfydd eu hymenyddiau; ym mhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfeydd, i ben un o'r creigiau llosg, i rostio fel poethfel.[2] Oddi yno cipid hwy ym mhell i ben un o fylchau y rhew a'r eira tragwyddol; yna yn ol i anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i'w trochi mewn llosgfeydd a mygfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaele;[3] oddi yno i siglen y pryfed, i gofleidio ymlusgiaid uffernol, llawer gwaeth na seirff a gwiberod: yna cymmerai'r cythreuliaid wiail clymog o ddur tanllyd o'r ffwrnais, ac a'u curent oni udent tros yr holl Fagddu fawr, gan yr annhraethawl boen echryslawn; yna cymmerent heirn[4] poethion i serio'r archollion gwaedlyd. Dim llewygu na llesmeirio nid oes yno, i siomi mynyd o seibiant; ond nerth gwastadol i ddyoddef ac i deimlo; er y tebygit ti, ar ol un echrys-lef, nad oedd bosibl fod fyth rym i roi un waedd arall mor hyllgref;[5] eto byth ni ostwng eu cywair, a'r diawliaid yn eu hateb, Dyma eich croeso byth bythoedd.' A phetai posibl, gwaeth na'r boen oedd goegni a chwerwder y diawliaid yn eu gwawdio ac yn eu gwatwar; a pheth oedd waethaf oll, oodd eu cydwybod yr awran wedi cwbl ddeffro, ac yn eu llarpio hwy yn waeth na mil o'r llewod uffernol.

Ond wrth fyned rhagom ar i waered bellbell, a 'phan bella' gwaetha'r gwerth;[6] y golwg cyntaf, gwelwn garchar ofnadwy, a dynion lawer iawn tan scwrs[7] y diawliaid yn griddfan yn felltigedig. 'Pwy yw y rhai hyn oll?' ebr fi. Dyma,' eb yr Angel, 'letty'r Gwae fi na buaswn![8] Gwae fi na buaswn yn ymlanhau oddi wrth bob rhyw bechod mewn pryd!' medd un; 'Gwae fi na buaswn yn credu ac yn edifarhau cyn dyfod yma! medd y llall.

  1. Math o gribau â dannedd heiyrn iddynt; heisylltan, trafelau.
    Pigau heislan o annwn.—Syr Rhosier Offeiriad.
  2. Gwel t. 41, n. 1.
  3. Cymharer Coll Gwynfa, ii. 627-34.
  4. 'Heirn' (lluosog o harn-haiarn)=heiyrn, heieirn.
  5. Hyll a chref; erchyll a nerthol.
  6. Po bellaf, gwaethaf yw'r gwerth.—Guto'r Glyn.
  7. 'Scwrs'=scourge: ffrewyll, fflangell.
  8. 'O that I hads'.—L'Estrange's Quevedo, p. 169.