Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

4. Mwythig, 1759, 16plyg, gan Thomas Durston.

Y mae'r ddau argraffiad hyn yn cyfateb yn gwbl i'w gilydd ym mhob peth, oddi eithr y flwyddyn ar y tudalen cyntaf, yng nghyd â rhyw ychydig bach o wahaniaeth argraffwaith yn y tudalen diweddaf, lle y crybwyllir am Y Llyfrau a argraphwyd ac sydd ar werth gan Tho. Durston.' Tebygol, gan hyny, mai yr un argraffiad yw y ddau, ac nad oes dim newydd yn argraffiad 1759, ond yn unig dalen yr enw a dalen yr hysbysiadau.

5. Caerfyrddin, 1767, 12plyg, gan J. Ross.

Yn yr argraffiad hwn troed 'ebr' yn 'ebe ac ebe'r;' a gwnaed ynddo lawer o fân gyfnewidiadau cyffelyb. Ymddengys mai y tro hwn y gwnaed cyfnewidion bwriadol gyntaf yn y gwaith.

6. Mwythig, 1768, 16plyg, gan J. Eddowes.

7. Mwythig, 1774, 24plyg, gan Stafford Prys.

Y mae hwn, ddalen a dalen trwy yr holl waith, yn cyfateb i'r argraffiad cyntaf, ac yn dilyn ei wallau argraffyddol gyda chryn fanyldeb.

8. Merthyr Tydfil, 1806, 12plyg.

Enwir a rhifnodir y tair Gweledigaeth ar ragddalen yr argraffiad hwn; mynegir fod y gwaith Gan Ellis Wynn;' ac attodir—'At ba un yr ychwanegwyd Mynegiad o'r Geiriau mwyaf Anualladwy trwy Gorph y Gwaith. Ceir y ‘Mynegiad’hwn yn y rhan fwyaf o'r argraffiadau diweddarach, heb un ymgais i'w ddiwygio lle mae yr eglurhâd yn anghywir. Ymddengys i'r argraffiad hwn gael ei gymmeryd o un 1767 (rhif 5). Cynnwys 95 o dudalenau.

9. Caerfyrddin, 1811, 12plyg.

Yn hwn y dosbarthwyd y gwaith yn wahanranau gyntaf. Cymmerwyd ef o arg. 1806 (rhif 8), a dilynwyd ef yn lled