Nesaf i gell yr Edifeirwch rhyhwyr a'r dadl wedi barn, oedd garchar yr Oedwyr, a fyddo bob amser yn addo gwelläu, heb fyth gwplhau. Pan ddarffo hyn o drafferth,' medd un, 'mi a drof ddalen arall: Pan el hyn o rwystr heibio, mi a af yn ddyn newydd eto,' medd y llall. Ond pan ddarffo hyny, nid ydys nes; ceir rhyw rwystr arall fyth a hefyd, rhag cychwyn tua phorth sancteiddrwydd; ac os cychwynid weithiau, ychydig a'u troi yn ol.
Nesaf i'r rhai hyn oedd carchar y Camhyder, llawn o rai, pan berid iddynt gynt ymadael â'u hanlladrwydd, neu feddwdod, neu gybydd-dod, a ddywedent, 'Mae Duw yn drugarog, ac yn well na'i air, ac ni ddamnia ei greadur fyth am fater cyn lleied."[1] Ond yma cyfarth cabledd yr oeddynt, a gofyn, 'Pa le mae'r drugaredd hòno a fostid ei bod yn anfeidrol?' Tewch, gorgwn,' ebr ceimwch o gythraul mawr oedd yn eu clywed, tewch; ai trugaredd a fynech chwi, heb wneyd dim at ei chael? A fynech i'r Gwirionedd wneyd ei air yn gelwydd, dim ond er cael cwmni sothach mor ffaidd a chwi? Ai gormod o drugaredd a wnaed â chwi? Rhoi ichwi Achubwr, Dyddanwr, a'r angylion, a llyfrau, a phregethau, a siamplau da; ac oni thewch chwi â'n crugo[2] ni bellach wrth ymleferydd am drugaredd lle ni bu hi erioed!'
Wrth fyned allan o'r ceubwll tra thanbaid hwn, clywn un yn erthwch[3] ac yn bloeddio yn greulon: Nis gwyddwn i ddim gwell; ni chostiwyd dim wrthyf fi erioed, i ddysgu darllen fy nyledswydd; ac nid oeddwn i yn cael mo'r ennyd chwaith gan ennill bara i mi ac i'm tylwyth tlawd, i ddarllen nac i weddio.' 'Aie,' eb rhyw ddieflyn gwargam oedd ger llaw, 'a gaed dim ennyd i ddywedyd chwedlau ysmala? dim segur ymrostio hirnos gauaf, pan oeddwn i yng nghorn y simnai, na allesid rhoi peth o'r amser hwnw at ddysgu darllen neu weddio? Beth am y Suliau? Pwy fu yn dyfod gyda mi i'r dafarn, yn lle myned gyda'r person i'r Eglwys? Pa sawl prydnawn Sulgwaith a roed i ofer ddadwrdd am bethau'r byd, neu gysgu, yn lle dysgu myfyrio a gweddïo? Ac a wnaethoch chwi yn ol a wyddech? Tewch, Syre, â'ch dwndwr celwyddog.' 'O waedgi cynddeiriog,' ebr y colldyn, 'nid oes fawr er pan oeddit yn sisial peth arall yn fy mhen i! Pe dywedasit hyn