Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ochain yn greulonach na dim a glywswn i hyd yn hyn o uffern. Ymgroes dda i bawb,' ebr fi, beth sy'n peri i'r rhai hyn achwyn mwy na neb, heb na phoen na chythraul ar eu cyfyl?' 'O!' eb yr Angel, 'mae ychwaneg o boen oddi mewn, os oes llai o'r tu allan: Hereticiaid gwrthnysig, a rhai annuw, a llawer o rai anghrist, ac o'r bydol ddoethion, gwadwyr y ffydd, erlidwyr yr eglwys, a myrdd o'r cyfryw, sy yma, wedi eu gadael yn hollawl i chwerw-ddycnach gosp y gydwybod, sy'n cael ei chyflawn rwysg arnynt yn ddibaid ddirwystr. "Ni chymmeraf fi bellach," medd hi, "mo'm boddi mewn cwrw, na'm dallu â gwobrau, na'm byddaru â cherdd ac â chwmni, na'm suo, na'm synu â syrthni anystyriol; eithr mynaf fy nghlywed bellach, ac byth ni thyr clep y caswir yn eich clustiau.' Mae yr ewyllys yn codi blys y gwynfyd a gollwyd; a'r cof yn edliw hawsed fuasai ei gael; a'r dealltwriaeth yn dangos faint y golled, a sicred yw na cheir bellach ddim ond yr annhraethawl gnofa byth bythoedd. Ac felly â'r tri hyn, y mae'r gydwybod yn eu rhwygo yn waeth nag y gallai holl ddiawliaid uffern."[1]

A mi yn dyfod allan o'r gilfach ryfeddol hòno, mi glywn gryn siarad; ac am bob gair y fath hyll grechwen a phed fuasai yno bumcant o'r cythreuliaid ar fwrw eu cyrn gan chwerthin. Ond erbyn i mi gael nesäu i weled yr ammeuthyn mawr o wenu yn uffern, beth ydoedd, ond dau o bendefigion newydd ddyfod, yn dadleu am gael parch dyledus i'w bonedd; ac nid oedd y llawenydd ond digio'r gwyr boneddigion. Palff[2] o ysgwier,[3] â chanddo drolyn mawr o femrwn, sef ei gart achau,[4] ac yno yn dadgan o ba sawl un o'r pymtheg-llwyth Gwynedd[5] y tarddasai ef; pa sawl ustus o heddwch,

  1. Cymharer L' Estrange's Quevedo, pp. 180-2.
  2. Clamp, enwff, llach, neu dwlffyn o wr boneddig.
  3. 'Ysgwier'=Esquire: yswain.
  4. 'Cart' card, neu chart: achres.
  5. Coffeir enwau Pymtheg Llwyth Gwynedd yn y ddau englyn isod :—

    Cilmin, Hwfa, Brân, Gweirydd gell, a Hedd,
    Collwyn, Maelog, Nefydd,
    Edwin, Braint Hir, a'u bedydd,
    Marchweithiau, a Merchudd bydd:

    Dau Ednowain gain i gyd, Gwernynwy,
    Gwŷr uniawn gadernyd;
    I'r rhai'n y bu o'u rhan byd,
    Gwindai Pymtheg-llwyth Gwyndyd.

    (Y Greal, t. 155-8, 167.)