Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrth Adda. Ond, Syr,' ebr, ef, os yw eich gwaed chwi yn well na gwaed arall, bydd ynddo lai o ysgum wrth ferwi trwoch chwi yn y man; ac os oes rhagor, mynwn chwilio pob rhan o honoch trwy ddwr a thân.' Ar y gair, dyma ddiawl ar lun cerbyd tanllyd yn ei dderbyn, a'r llall o wawd yn ei godi ef iddo, ac ymaith ag yntau fel mellten. Ym mhen ennyd, parodd yr Angel i mi edrych, a gwelwn y marchog, druan, yn cael ei drwytho yn erchyll mewn anferthol ffwrnais ferwedig, gyda Chain, Nimrod, Esau, Tarcwin,[1] Nero,[2] Caligula,[3] a'r lleill a ddechreuodd ddwyn achau, a chodi arfau bonedd.[4]

Encyd yn mlaen, parodd fy nhywysog i mi ysbio trwy dollgraig,[5] ac yno gwelwn dyrfa o fursenod yn ymsionci yn gwneyd ac yn dadwneyd eu holl ffoledd ar y ddaiar gynt; rhai yn mingrynu; rhai â heirn yn tynu eu haeliau; rhai yn ymiro; rhai yn clytio eu hwynebau ag ysmotiau duon, i wneyd i'r melyn edrych yn wynach; rhai yn ceisio tori'r drych; a chwedi'r holl boen yn ymliwio ac yn ymfritho, wrth weled eu hwynebau yn wrthunach na'r cythreuliaid, a rwygent â'u hewinedd a'u dannedd yr holl wrid gosod, a'r ysmotiau a'r crwyn, a'r cig tan un, ac a oerleisient allan o fath.[6] 'Y felltith fawr,' meddai un, 'i fy nhad, a wnaeth i mi briodi hen gelffaint[7] yn eneth gwaith hwnw yn codi blys heb allu mo'i dori a'm gyrodd i yma.' 'Mil o felltithion ar fy rhieni," meddai'r llall, 'am fy ngyru i'r fonachlog i ddysgu diweirdeb; ni fuasai waeth iddynt fy ngyru at Rowndiad i ddysgu bod yn hael, neu at Gwacer i ddysgu bod yn foesol, na'm gyru at Bapist i ddysgu onestrwydd. Y distryw gwyllt,' ebr un arall, 'a ddyco fy mam, am ei balchder cybyddus yn rhwystro i mi gael gwr wrth fy rhaid, ac felly gwneyd i mi ledrata'r peth a

  1. Tarcwin Falch, neu Tarquinius Superbus, y seithfed a'r olaf o freninoedd Rhufain, cyn Cred 534-510.
  2. Chweched ymherawdwr Rhufain.
  3. Trydydd ymherawdwr Rhufain.
  4. Cymharer L'Estrange's Quevedo, pp. 161-7
  5. Tollgraig' (o toll, benywaidd o twll, a craig)=craig dyllog; craig ddrylliog neu ddarniog.

     Ogof y dollgraig a wna les, Yn lloches i'r cwningod.—Edm Prys (Salm civ. 18).

  6. 'Allan o fath'=allan o fesur, tu hwnt i fesur.
  7. 'Celffaint'=hen bren crin; pren wedi erino a chialedu gan henaint; cyff, boncyff, cippill; hen beth gwywedig. <poem> Carn Sais ar gellaint-Trivedd. Celffaint o henaint yw hwn.—Llew. ab Gutyn. </poem