Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

meddai rhyw wiber wrthun arall. O, diolch i chwi yn fawr,' ebr un cawr o gythraul oedd yn clywed; yr ym ni yn cyfrif ein lle a'n haeddiant yn beth gwell: er y poenech chwi bawb cynddrwg a ninnau; er hyny, ni chollwn ni eto mo'n swydd i chwi.' 'Ac hefyd,' eb yr Angel yn ddystaw, 'mae achos arall i Luciffer roi cadwraeth ddichlyn ar y rhai hyn, rhag iddynt, os torant allan, yru holl uffern bendramwnwgl.'

Oddi yno ni aethom ar i waered fyth, lle gwelais ogof anferthol, ag ynddi'r fath ddrygnad echrys, na chlywswn i eto mo'i gyffelyb, gan dyngu, a rhegu, a chablu, ac ymddanneddu, ac ochain, a gwaeddi. 'Pwy sy yma?' ebr fi. 'Dyma,' ebr ef, 'Ogof y Lladron: yma mae myrdd o fforestwyr, cyfreithwyr, stiwardiaid, a'r hen Suddas[1] yn eu mysg;" a blin iawn oedd arnynt weled y ffardial[2] deilwriaid a'r gwëyddion uwch eu llaw ar ystafell esmwythach. Prin y cawswn ymdroi, nad dyma geffyl o ddiawl yn dwyn physigwr a photecari, ac yn eu taflu ym mysg y pedleriaid, a'r hwndlwyr ceffylau, am werthu war[3] ddrwg fethedig: ond dechreuasant rwgnach eu gosod mewn cwmpeini mor wael. 'Aröwch, aröwch,' ebr un o'r diawliaid, 'chwi haeddech le amgenach: ac a'u taflodd hwy i waerod i blith y cwncwerwyr a'r mwrdrwyr. Yr oedd yma fyrdd i mewn am chwareu disiau ffeilsion, a chuddio cardiau: ond cyn i mi gael dal fawr sylw, clywn yn ymyl y drws, anferth drwp a thrwst, a gyru hai, hai, hai-ptrw-how, ho, ho-o-o-o-hwp.[4] Trois i edrych beth oedd: methu canfod dim ond yr ellyllon corniog. Gofynais i'm tywysog ai cycwalltiaid[5] oedd gyda'r diawliaid? Nag e,' ebr ef, 'mae y rhai hyny mewn cell arall: Porthmyn yw y rhai hyn, a fynai ddianc i le Torwyr y Sabbath, ac a yrir yma o'u hanfodd.' Gyda'r gair, edrychais, a gwelwn eu penglogau yn llawn o gyrn defaid a gwartheg; a dyma'r gyrwyr yn eu taflu hwy i lawr tan draed yr ysbeilwyr gwaedlyd. Llechwch yna,' ebr un; 'er maint yr

  1. 'Suddas'=Iudas-Iudas Iscariot.
  2. Ffardial' (o'r Seis. fardel, sypyn)=sypyn o ddyn, torpwth, ffallach, swbach, pwtyn o ddyn, ffwtiar.
  3. 'War'=ware: nwyddau, moddion, eiddo.
  4. Dychymmygeiriau, i ddynwared gwaedd gyrwyr gwartheg.
  5. 'Cycwalltiaid' (Seis. cuckolds)=rhai a gywilyddir drwy anniweirdeb eu gwragedd; gwŷr corniog, hoffdyniaid. Cwewaldiaid, arg, 1703.
    Yn gycwallt salw y'm galwant.
    —D. ab Gwilym.