Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ym mlaen ar i waered fyth yr oeddym ni yn teithio hyd y gwyllt dinystriol, trwy aneirif o arteithiau annhraethol a thragwyddol, o gell i gell, o seler i seler; a'r olaf fyth yn rhagori ar y lleill o erchylldod anferth: o'r diwedd i olwg cyntedd dirfawr, annhirionach fyth na dim o'r blaen. Cyntedd trahelaeth ydoedd a hyllserth,[1] a gwga[2] ei redfa at ryw gongl ddugoch anghredadwy o wrthuni ac erchylldod: yno yr oedd y breninllys. Ym mhen uchaf y brenin-gwrt melltigedig, ym mysg miloedd o erchyllion ereill, wrth lewyrch fy nghydymaith, gwelwn yn y fagddu ddau droed anferthol o anferthol o faint![3] yn cyrhaedd i doi'r holl ffurfafen uffernol. Gofynais i'm tywysog beth allai'r anferth hwnw fod. Wel,' ebr yntau, ti a gei helaethach golygiad ar yr anghenfil yma wrth ddychwelyd: ond tyred ym mlaen yr awran i weled y breninllys.'

A ni yn myned i waered hyd y cyntedd ofnadwy, clywem drwst o'n hol, megys llawer iawn o bobl: wedi i ni osgoi i'w gollwng hwy ym mlaen, gwelwn bedwar llu neillduol; ac erbyn ymorol, pedair tywysoges y Ddinas Ddienydd oedd yn dwyn eu deiliaid yn anrheg i'w tad. Mi adnabum lu y Dywysoges Balchder, nid yn unig am eu bod yn mynu'r blaen ar y lleill, ond hefyd wrth eu gwaith yn pendwmpian bob yn awr eisieu edrych tan eu traed. Yr oedd gan hon fyrdd o freninoedd, penaethiaid, gwŷr llys, boneddigion, a ffrostwyr, a llawer o Gwaceriaid, a merched aneirif o bob gradd.

Y nesaf oedd y Dywysoges Elw, â'i llu henffel iselgraff, a llawer iawn o hil Sion Lygad Arian, llogwyr, cyfreithwyr, cribddeilwyr, goruchwylwyr, fforestwyr, puteiniaid, a rhai eglwyswyr.

Nesaf i hyny oedd y Dywysoges fwyn Pleser, a'i merch Ffolineb, yn arwain ei deiliaid, yn chwaryddion disiau, cardiau, tawlbwrdd, castiau hug, yn brydyddion, cerddorion, hen chwedleuwyr, meddwon, merched mwynion, masweddwyr, teganwyr, a mil fyrddiwn o bob rhyw deganau, i fod weithian yn beiriannau penyd i'r ynfydion colledig.

Wedi i'r tair hyn fyned â'u carcharorion i'r llys i dderbyn

  1. Hyll a serth.
  2. Golwg, edrychiad; gogwydd.
  3. Felly yn arg, 1703, a rhai Durston.