Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddiesgeulus gan yr argraffiadau & ymddangosasant ar ei ol hyd un 1853 (rhif 14).

10. Dolgellau, 1825, 12plyg.

11. Caerfyrddin, 1828, 12plyg. Argraffiad newydd o'r rhif 9, ac yn dwyn ei holl nodweddau.

12. Llanrwst, 12plyg.

13. Caernarfon, 16plyg.

Crach argraffiadau yw y ddau olaf hyn (12 a 13), heb fawr o gamp arnynt, nac, un amseriad wrthynt.

14. Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Gan Elis Wynne. Argraffiad newydd, gyda Nodiadau Eglurhaol, gan D. Silvan Evans.' Caerfyrddin, 1853, 16plyg.

Hwn yw yr argraffiad cyntaf gyda nodiadau eglurhaol, heb law y ‘Mynegiad' y soniwyd am dano eisoes.

15. Llanidloes (1854), 16plyg.

Adargraffiad o destyn yr un blaenorol (rhif 14), heb y Nodiadau. Yr un fath â rhif 12 a 13, nid oes amseriad wrtho; ond yn y flwyddyn uchod (1854) yr ymddangosodd.

16. Caerfyrddin, 1865, 16plyg.

Ail argraffiad diwygiedig, sef adgyhoeddiad o argraffiad 1853 (rhif 14), gyda chyweiriadau.

Dichon fod ychwaneg o argraffiadau wedi ymddangos; ond methwyd taraw wrthynt, er gwneuthur cryn ymchwiliad yn eu cylch.

Cymmerwyd testyn yr argraffiad newydd presennol o argraffiad yr awdwr ei hun; a chymharwyd ef yn ofalus â'r argraffiadau ereill, yn enwedig y rhai a gyhoeddwyd cyn diwedd y ganrif ddiweddaf. Nid oes nemawr o lyfr yn ein hiaith wedi cael cymmaint cam ar ddwylaw cyhoeddwyr ag a