Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn, dyma ni agos ag ennill byd arall; mae mwy na phum rhan o'r Ddaiar tan fy maner i er's talm. Ac er darfod i'r Gelyn Hollalluog yru ei Fab ei hun i farw trostynt, eto yr wyf fi wrth fy nheganau, yn mynu deg enaid am un a gaffo Fo gyda'i Fab croeshoeliedig. Ac er na chyrhaeddwn ei gyffwrdd Ef yn y goruchafon, sy'n ergydio'r taranau anorchfygol; eto melus yw dial rywffordd. Gorphenwn ninnau ddifa'r gweddill sy o ddynion yn ffafr ein Distrywiwr ni. Mae yn gof genyf yr amser y parasoch iddynt losgi yn fyddinoedd ac yn ddinasoedd, ie, i ddaiar-lwyth cyfan ddisgyn trwy'r dwr atom ni i'r tân. Ond yr awran, er nad yw eich nerth a'ch creulonder naturiol ronyn llai, eto yr ych chwi wedi rhyw ddiogi: ac oni bai hyny, gallasem fod er's talm wedi difa yr ychydig rai duwiol, ac wedi ennill y ddaiar i fod yn un â'r llywodraeth fawr yma. Ond gwybyddwch hyn, weinidogion duon fy nigofaint, oni byddwch glewach a phrysurach weithian, a byred yw ein hamser ni, myn Annwn a Distryw, ac myn y Fagddu fawr dragwyddol, cewch brofi pwys fy llid arnoch eich hunain yn gyntaf, mewn poenau newyddion a dyeithrol i'r hynaf o honoch.' Ac ar hyn, fe guchiodd oni chymylodd y llys yn saith dduach nag o'r blaen.

Yn hyn, cododd Moloc,[1] un o'r penaethiaid cythreulig, ac wedi gwneyd ei foes i'r brenin, ebr ef, 'O Empriwr yr awyr, rheolwr mawr y tywyllwch, nid ammheuodd neb erioed fy ewyllys i at eithaf malais a chreulonder; canys dyna fy mhleser i erioed; odiaeth oedd genyf glywed plant yn trengu yn y tân, megys gynt pan aberthid hwy i mi, tu allan i Gaersalem. Hefyd, wedi i'r Gelyn croeshoeliedig ddychwel i'r uchelder, mi a fum, yn amser deg o ymherodron, yn lladd ac yn llosgi ei ddilynwyr Ef, i geisio difa'r Cristianogion oddi ar wyneb y ddaiar, tra thyciodd i mi. Gwnaethym ym Mharis ac yn Lloegr, ac amryw fanau ereill, lawer lladdfa fawr o honynt wedi hyny: ond beth ydys nes? Tyfu a wnai'r pren pan dorid ei geinciau: nid yw hyn oll ond dangos dannedd heb allu mo'r brathu.'

'Pshaw!'[2] ebr Luciffer; 'baw i'r fath luoedd digalon a chwi; ni hyderaf fi arnoch chwi mwy. Mi wnaf y gwaith fy hun, ac a fynaf yr orchest yn ddi-ran: af i'r ddaiar yn fy mherson

  1. Gwel Coll Gwynfa, i. 414.
  2. Pw twt! tw tw!