Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yna cododd y fath och! och! och! a'r fath wae, ac udfa gyffredin, mwy na swn llifddyfroedd, neu dwrw daiargryn, onid aeth uffern yn saith erchyllach. Minnau a lewygaswn, oni buasai i'm hanwyl gyfaill fy achub. 'Cymmer,' ebr ef, 'lawer yr awron i'th nerthu i weled pethau garwach eto na'r rhai hyn.' Ond prin y daethai'r gair o'i eneu ef, pan, wele'r nefol Gyfiawnder, sy uwch ben y geulan yn cadw drws uffern, yn dyfod dan scwrsio[1] tri o ddynion â gwiail o ysgorpionau tanllyd. Ha, ha!' ebr Luciffer, 'dyma driwyr parchedig, y teilyngodd Cyfiawnder ei hun eu hebrwng i'm teyrnas i.' 'Och fi fyth!' ebr un o'r tri, pwy oedd yn ceisio ganddo ymboeni?' 'Ni waeth er hyny,' ebr yntau (â golwg a wnaeth i'r diawliaid ddelwi a chrynu, onid oeddynt yn curo yn eu gilydd), 'ewyllys y Creawdr mawr oedd i mi fy hun ddanfon y fath fwrdrwyr melltigedig i'w cartref.' 'Syre,' ebr ef wrth un o'r cythreuliaid, 'egorwch i mi ffollt[2] y mwrdwr, lle mae Cain, Nero, Bradshaw,[3] Boner,[4] ac Ignatius,[5] ac aneirif ereill o'r cyffelyb.' 'Och! och! ni laddasom ni neb,' ebr un. 'Diolch i chwi, eisieu cael amser, am ddarfod eich rhwystro,' ebr Cyfiawnder. Pan egorwyd yr ogof, daeth allan y fath damchwa echrys o fflamau gwaedlyd, a'r fath waedd, a phetai fil o ddreigiau yn rhoi'r ebwch olaf wrth drengu. Ac wrth i Gyfiawnder fyned heibio yn ol, ar hanner tro, fe chwythodd y fath dymmestl o gorwyntoedd tanllyd ar y Fall fawr a'i holl benaethiaid, oni chipiwyd ymaith Luciffer, yna Belsebub, Satan, Moloc, Abadon, Asmodai, Dagon, Apolyon, Belphegor, Mephostophiles,[6] a'r holl brif gythreuliaid ereill, ac a'u pendifadwyd oll i ryw sugn-dwll can ffieiddiach ac erchyllach ei olwg a'i archfa ofnadwy na dim oll a'r a welswn i, a hwnw yn cau ac yn agoryd yng nghanol y llys. Ond cyn i mi gael gofyn, Dyma,' eb yr Angel, dwll sy'n disgyn i fyd

  1. 'Scwrsio'=scourge: ffrewyllio, flangellu.
  2. Ffollt'=ffald, lloc, gwarchae, carchar. 'Ffolt' yw darlleniad rhai o'r argraffiadau, a 'follt' (bollt) a geir yn y lleill; ffollt' yn arg. 1703.
  3. Ioan Bradshaw, blaenor yr uchel lys a gollfarnodd y Brenin Carl i'w ddienyddu. Gwel t. 94.
  4. Edmund Bonner, esgob gwaedlyd Llundain, yn nheyrnasiad y Frenines Mair. Bu farw yn 1569.
  5. Ignatius Loyola, sylfaenydd yr Iesuaid, neu Gymdeithas yr Iesu. Ganwyd ef yn yr Yspacn, yn 1491; bu farw yn 1556; a seintiwyd ef gan y Pab Gregor XV. yn 1622. Ei gofwyl yw Gorphenaf 31.
  6. Neu, Mephistopheles, fel y gelwir yn y Faust, eiddo Goethe.