Tudalen:Gweledigaethau y bardd cwsg (IA gweledigaethauy00wynn).pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dorasant allan o'u Purdan; ac yna, o achos hen lid, aethant i ddifachio[1] ceuddrws Paradwys Mahomet, a gollyngasant y Tyrciaid allan o'u carchar; ac wedi yn y cythryfwl, caed rhyw ffael i hil Cromwel dori allan o'u celloedd.' Yna troes Luciffer, ac a edrychodd tan ei orseddfainc, lle yr oedd yr holl freninoedd colledig, ac a barodd gadw Cromwel ei hun yn ei ganel, a hefyd holl ymherodron y Tyrciaid yn ddiogel. Felly hyd wylltoedd duon y tywyllwch prysurodd Luciffer a'i luoedd, a phawb yn cael goleu a gwres ar ei gost ei hun; wrth yr anferth drwst cyfeiriodd yn lew tuag atynt; yna gorchymmynwyd gosteg yn enw'r brenin; a gofynodd Luciffer, 'Beth yw achos y cythryfwl yma yn fy nheyrnas i?' 'Rhyngai fodd i'ch mawrhydi uffernol,' ebr Mahomet, 'dadladdechreuodd rhyngof fi a'r Pab Leo, pa'r un a wnaethai i chwi fwyaf o wasanaeth, ai fy Alcoran i, ai crefydd Rufain: ac yn hyny,' ebr ef, 'dyma yr o Rowndiaid wedi tori eu carchar yn y trwst, ac yn taro i mewn hwythau, gan daeru yr haeddai eu Lêg a'u Cofenant[2] fwy parch ar eich llaw nag yr un; felly o ymdaeru i ymdaro, o eiriau i arfau. Ond weithian, gan i'ch mawrhydi ddychwelyd o Annwn, mi a rof y mater arnoch chwi eich hunan.' 'Aröwch, ni ddarfu i ni â chwi felly,' ebr Pab Iulius; ac ati hi, ewinedd a dannedd, eilwaith yn gynddeiriog, onid oedd yr ergydion megys daiargryn, a'r tair byddin damniaid hyn yn darnio eu gilydd, ac yn asio eilwaith fel nadroedd, ar draws, y tarenydd[3] eirias danneddog, nes peri o Luciffer i'w hen sawdwyr, cawri Annwn, eu tynu oddi wrth eu gilydd; ac ni bu hawdd.

  1. Dadfachu; tynu neu daflu oddi ar y colfachau.
  2. The Solemn League and Covenant y gelwid y cytundeb a wnaed rhwng Cymmanfa Gyffredinol Eglwys yr Alban, a Dirprwywyr oddi wrth Senedd Lloegr, yn 1643; a'i amcan proffesedig oedd unffurfiaeth addoliad, athrawiaeth, a dysgyblaeth, trwy yr Alban, Lloegr, ac Iwerddon.
  3. Tarenydd'=darnau neu glytiau o dir; twmpathau, cnyciau, cnoliau, crugiau, banau: un. taren.